'Rhaid ymladd' i gadw ward strôc Ysbyty Bronglais
'Rhaid ymladd' i gadw ward strôc Ysbyty Bronglais
"Mae'n rhaid ymladd dros hyn, mae'n lifeline."
"Ga'th Bronglais ei adeiladu fel ysbyty, dim ysbyty bwthyn."
"Unwaith eto mae Hywel Dda yn anwybyddu y cymunedau yma."
Cryfder y teimladau yn y canolbarth a'r gofid ynghylch colli gwasanaethau o Fronglais a'r dwf.
Yn gofalu am ei thad Tecwyn ar ôl iddo gael dwy strôc yn 2019 mae Meinir yn teimlo'n gryf am gadw gwasanaethau yn lleol.
"Bod ddim yn siwr beth oedd yn ein disgwyl ni oedd y gwaethaf.
"Petawn i 'di gorfod mynd lawr i Glangwili neu Prince Philip byddai wedi bod yn waeth byth.
"Byddai'r siwrne yn awr a hanner i ddwy awr yn lle 10 munud.
"Byddai teithio hynny bob dydd i ymweld mewn oriau ymweld prin ddim wedi bod yn rhwydd."
"Five and six, fifty six."
Yr oedran lle mae risg o gael strôc yn dyblu.
Mae'r grwp cymdeithasol yma ar gyfer pobl hyn yn cwrdd bob wythnos ac yn cwestiynu goblygiadau cynlluniau'r bwrdd iechyd ar gymdeithas sy'n byw yn hirach.
Dan gynllun gwasanaethau clinigol y bwrdd iechyd maen nhw'n ystyried newid ward strôc Bronglais i fod yn adran trin a throsglwyddo.
Byddai bwrw ymlaen yn golygu i gleifion gael asesiad ym Mronglais a chael triniaeth gychwynnol cyn symud i ysbyty arall i dderbyn gofal arbenigol.
"Ofnadwy, mae gymaint o bethe wedi mynd a ni'n colli mwy bob tro."
"Gyda dwy awr ychwanegol bydd y gofal ddim yn bodoli."
Ar ôl cyfyngu ar y ddarpariaeth ar ward plant Ysbyty Bronglais nôl ym mis Hydref a son rŵan am israddio'r uned strôc mae 'na ofid am ddyfodol gwasanaethau yma wrth i arbenigedd gael ei symud yn bellach i ffwrdd.
"Jyst israddio gwasanaethau i weld yn ansicrwydd gyda'r staff.
"Dydyn nhw'm yn gwybod beth sy'n digwydd.
"Bronglais yw canol y canolbarth.
"Mae'n bwysig bod ni'n rampio gwasanaethau i fyny."
Gofynnom am ymateb a dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod unrhyw newidiadau er mwyn gwella ansawdd gwasanaethau a'u bod yn ymwybodol o bwysigrwydd Bronglais i ganolbarth Cymru.
Mae'r pellter yn bellach i bobl mewn rhannau o Bowys a De Gwynedd sydd hefyd yn defnyddio'r ysbyty yn Aberystwyth.
"Mae gen i ofn achos yr oedran 'dan ni rŵan, gall unrhyw un gael strôc.
"Y ffordd mae'r ambulance services hefyd, mae'n rhaid ymladd."
Daw mwy o fanylion am y cynllun mewn amser.
Am y tro, mae'r rhai sy'n poeni yn paratoi ymgyrch i ddiogelu gwasanaethau.