Newyddion S4C

Yr actor Daniel Evans i ddychwelyd i'r llwyfan

27/01/2025
Daniel Evans

Bydd yr actor o Gymru Daniel Evans yn dychwelyd i'r llwyfan a hynny ar ôl 14 mlynedd. 

Mewn cyfweliad gyda The Guardian mae'n dweud ei fod wedi teimlo'r "angen i actio eto. Allai ddim cweit esbonio'r peth".

Heblaw am orfod camu i'r adwy mewn sioe gerdd dyw Daniel Evans o Gwm Rhondda ddim wedi actio am flynyddoedd. 

Yn lle hynny mae wedi bod yn cyfarwyddo mewn theatrau ac yn fwy diweddar yn gyd gyfarwyddwr gyda chwmni y Royal Shakespeare (RSC). 

Bydd yn chwarae rhan y brenin yn y ddrama Edward II ym mis Chwefror. Drama yw hon sydd yn edrych ar berthynas rhamantus y brenin gyda Piers Gaveston. 

Dyw'r ddrama ddim wedi ei pherfformio gan y Royal Shakespeare Company ers 35 o flynyddoedd. Mae'n dweud bod nawr yn amser da i wneud am ei bod yn "teimlo yn gyfoes". 

"Pa bynnag mor rhyddfrydol mae ein cymdeithas ni'n ymddangos, fe allwch chi ddod ar draws homoffobia yn wythnosol, hyd yn oed yn ddyddiol. 

"Dydyn ni erioed wedi cael prif weinidog sydd yn gyhoeddus hoyw nag enillydd Yr Actor Gorau yn yr Oscars," meddai wrth The Guardian.

Fe fydd Daniel Evans hefyd yn actio mewn cynhyrchiad o'r ddrama 4:48 Psychosis ym mis Mehefin a Gorffennaf.

Llun: Daniel Evans/Royal Shakespeare Company 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.