WH Smith mewn trafodaethau i werthu eu siopau stryd fawr
Mae WH Smith wedi cyhoeddi eu bod yn ystyried gwerthu eu siopau stryd fawr i gwmni arall 230 o flynyddoedd ar ôl agor eu siop gyntaf.
Mae cangen Stryd Fawr y cwmni yn cynnwys tua 500 o siopa, gan gynnwys dros 15 yng Nghymru.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni: “Mae WH Smith yn cadarnhau ei fod yn archwilio opsiynau strategol posibl ar gyfer y rhan broffidiol hon o’r grŵp, gan gynnwys gwerthiant posib."
Roedd y cwmni eisoes wedi cadarnhau y bydd tair siop yng Nghymru yn cau eleni. Bydd WH Smith Y Rhyl a'r Drenewydd yn cau ar 15 Chwefror, a bydd y siop yng Nghasnewydd yn cau fis Ebrill.
Dros y ddegawd ddiwethaf, mae’r cwmni wedi canolbwyntio ar y busnes manwerthu teithio sy’n gweithredu o feysydd awyr, gorsafoedd trên ac ysbytai.
Mae busnes y Stryd Fawr bellach tua 15% yn unig o elw blynyddol y cwmni.
“Dros y degawd diwethaf, mae WH Smith wedi canolbwyntio ar ddod yn fanwerthwr teithio byd-eang”, meddai’r datganiad.
“Mae gan fusnes teithio’r cwmni dros 1200 o siopau ar draws tair o wledydd, ac mae tri chwarter refeniw’r cwmni ac 85% o’i elw masnachu yn dod o’r busnes teithio.”
Adroddodd y cwmni elw cyn-treth o £166 miliwn am y flwyddyn hyd at Awst,2024 - £23 miliwn yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.
Ond arhosodd enillion busnes y Stryd Fawr ar £32 miliwn, er gwaethaf gostyngiad o 2% mewn gwerthiannau tebyg at ei debyg (like-for-like) mewn ymdrech i arbed costau.