Newyddion S4C

Rhybudd i bobl gau ffenestri wedi tân mawr ar ystâd ddiwydiannol

25/01/2025
Gwasanaeth Tan

Mae’r gwasanaethau brys wedi gofyn i bobl gau eu ffenestri a’u drysau wedi tân mawr ar ystâd ddiwydiannol.

Dywedodd Heddlu Gwent bod y tân ar Barc Eco Capital Valley yn Rhymni a'u bod nhw wedi eu galw allan neithiwr.

“Os ydych chi’n byw yn lleol gwnewch yn siŵr bod eich drysau a’ch ffenestri ar gau,” medden nhw.

Mae’r A469 ar gau rhwng B4257 Stryd Carno a Heol Evan Wynne.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn cynorthwyo criwiau tân yn y fan a'r lle.

Maen nhw’n cynghori pobl i "osgoi mynd i mewn i Afon Rhymni - gan gynnwys anifeiliaid anwes - er mwyn osgoi halogion posib".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.