Carchar i fam i efeilliaid fu farw mewn tân
Mae mam i bedwar o fechgyn ifanc fu farw mewn tân wedi ei dedfrydu i 10 mlynedd yn y carchar.
Bu farw’r ddau set o efeilliaid - Bryson a Kyson, oedd yn bedair oed, a Leyton a Logan, oedd yn dair oed - ar 16 Rhagfyr 2021.
Roedd eu mam, Deveca Rose, 30 oed, wedi eu gadael nhw adref ar eu pennau eu hunain i fynd i Sainsbury’s pan ddechreuodd tân yn eu tŷ teras yn Sutton, yn ne Llundain, a achoswyd gan sigarét neu gannwyll.
Fe gafwyd Mr Rose yn euog o bedair achos o ddynladdiad ond yn ddieuog o un achos o greulondeb at blant. Roedd Mr Rose wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn.
Wrth ddedfrydu'r fam, a oedd yn ei dagrau, yn Llys yr Old Bailey dywedodd yr Ustus Lucraft ei fod yn achos “trasig”.
Dywedodd wrth Deveca Rose: “Doeddech chi ddim yno ac roedd y plant yn rhy ifanc i wybod beth i’w wneud.
“O ganlyniad i'r hyn wnaethoch chi, fe fuon nhw i gyd farw."
Doedd dim un o’r eitemau roedd Rose wedi mynd i Sainsbury’s i’w prynu'r diwrnod hwnnw yn “hanfodol” ac roedd y plant wedi profi “dioddefaint corfforol difrifol” cyn marw, meddai.
Er bod Rose wedi cael trafferth gyda'i hiechyd meddwl, ni dderbyniodd y barnwr fod hynny wedi lleihau ei chyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd.
‘Cyfrifol’
Wrth siarad y tu allan i’r llys, dywedodd teulu’r bechgyn fod “cyfiawnder” wedi’i wneud ar ran y bechgyn.
Dywedodd llys-nain y bachgen, Kerrie Hoath, eu bod nhw - Bryson, Kyson, Logan a Leyton - wedi cael eu “dwyn oddi wrthym ni yn greulon”.
“Mae ein teulu wedi gorfod dioddef tair blynedd o gelwyddau, oedi a straeon ffug,” meddai.
“Mae wedi bod yn hunllef ac wedi cael effaith mawr arnom ni fel teulu.
“Rydym wedi clywed dyfalu mai goleuadau ar goeden Nadolig a achosodd y tân, honiadau ffug bod y bechgyn wedi cael eu gadael gyda gwarchodwr.
“Diolchwn i'r rheithgor am weld drwy hynny a rhoi’r dyfarniad cywir i ni.
“Cafodd Bryson, Kyson, Logan a Leyton eu gadael ar eu pen eu hunain gan eu mam Deveca Rose.
“Hi sydd yn gyfrifol am eu marwolaethau.”