Newyddion S4C

Cadarnhau y bydd cyrsiau yn cael eu symud o Lambed i Gaerfyrddin er gwaethaf protestiadau

Protest Llambed

Mae Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant wedi cadarnhau y bydd cyrsiau israddedig yn cael eu symud o Lanbedr Pont Steffan i Gaerfyrddin.

Daw’r penderfyniad wedi i ymgyrchwyr brotestio yn y dref a thu allan i’r Senedd yn erbyn y bygythiad o gau'r campws.

Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd y brifysgol eu bod nhw wedi penderfynu adleoli “o ystyried y ffaith bod nifer y myfyrwyr sy’n astudio’n llawn amser ar gampws Llambed yn lleihau”.

Mae'r brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan wedi bodoli ers dros 200 mlynedd a dyma'r sefydliad hynaf yng Nghymru sydd yn dyfarnu graddau.

Cafodd Prifysgol Cymru Llambed ei chyfuno gyda Choleg y Drindod yng Nghaerfyrddin yn 2010.

Mewn datganiad dywedodd y brifysgol: “Byddai hyn yn rhoi gwell mynediad i fyfyrwyr at wasanaethau a fyddai’n cefnogi eu profiad yn y brifysgol ac, yn caniatáu i’r Dyniaethau ffynnu mewn amgylchedd mwy rhyngddisgyblaethol.”

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae’r Brifysgol bellach wedi cwblhau ei phroses benderfyniadau ac wedi cymeradwyo’r cynnig i adleoli ei darpariaeth Dyniaethau o Lanbedr Pont Steffan i Gaerfyrddin.

“Rydym wedi gweithio i leihau ansicrwydd i staff a myfyrwyr trwy wneud penderfyniad mewn da bryd i alluogi’r cyfnod pontio.

“Bydd y Brifysgol nawr yn cychwyn ar y paratoadau a’r ystyriaethau ymarferol ar gyfer y newid arfaethedig hwn, fel y gall hwyluso’r broses bontio esmwyth fydd yn galluogi’r Dyniaethau i gychwyn y flwyddyn academaidd yn eu cartref newydd yng Nghaerfyrddin ym mis Medi 2025.

“Mae campws Llambed yn bwysig iawn i’r Brifysgol. Bydd mecanwaith yn cael ei sefydlu lle gall rhanddeiliaid fod yn rhan o gynigion ar gyfer ystod o weithgareddau economaidd, hyfyw sy’n gysylltiedig ag addysg a fydd yn dod â bywyd newydd, cynaliadwy i’r campws.”

‘Cic fawr’

Mae Cymdeithas Llambed, cymdeithas cyn-fyfyrwyr y brifysgol, wedi lansio deiseb yn erbyn y cynigion sydd wedi ei arwyddo 3,900 o weithiau.

Dywedodd Ieuan Davies, un o drefnwyr y brotest ac aelod o gymdeithas cyn-fyfyrwyr y brifysgol, wrth Newyddion S4C fis diwethaf bod angen achub y dref a'r campws.

"Oherwydd fod Llambed mas yn y wlad, ma' rhaid cael pobl mewn i'r dre," meddai.

"Yn bersonol i fi oedd Llambed yn dre’ lleol i fi ac o’n i’n lwcus iawn i fynd yno. Mae rhaid safio’r lle oherwydd mae cymaint o hanes i gael wrth gwrs.

Ychwanegodd Mr Davies: "Fues i’n lwcus iawn i fynd i Lambed, mae’r coleg mor bwysig i’r dre', roedd dros 1,000 yna ar un pryd ac oedd busnesau yn y dref yn elwa yn fawr o’r myfyrwyr achos maen nhw gyd yn mynd yna ac yn gwario arian.

"Pan mae nifer y myfyrwyr yn mynd lawr, mae’r elw i fusnesau lleol, tafarndai yn mynd lawr hefyd. Felly mae’n mynd i fod yn gic fawr i economi’r dre’ a’r ffiniau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.