Newyddion S4C

Rhybudd melyn am niwl yn y gogledd ddwyrain

niwl

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am niwl yng ngogledd ddwyrain Cymru fore Mercher.

Fe ddaeth y rhybudd melyn i rym am 00.00 a bydd yn parhau tan 11.00.

Gallai hyn arwain at amodau gyrru gwael ar y ffyrdd, gyda'r niwl yn drwchus mewn rhai mannau.

Mae'n bosib na fydd teithwyr yn gallu gweld ymhellach na 100 medr mewn mannau. Y cyngor i yrwyr yw addasu eu cyflymder.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai'r niwl effeithio ar deithiau trenau a theithiau awyrennau o feysydd awyr hefyd.

Mae'r rhybudd yn effeithio ar siroedd Wrecsam a'r Fflint.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.