Donald Trump i ryddhau carcharorion a ymosododd ar adeilad y Capitol
Yn ystod oriau cyntaf ei arlywyddiaeth, mae disgwyl i Donald Trump ryddhau'r bobl a gafodd eu carcharu am eu rhan yn y terfysg yn adeilad y Capitol yn Washington DC bedair blynedd yn ôl.
Fe gafodd Donald Trump ei urddo'n Arlywydd yr Unol Daleithiau am yr ail waith mewn seremoni yn Washington DC ddydd Llun.
Ers hynny, mae wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau bob un o'r bron i 1,600 o derfysgwr sydd wedi'u cael yn euog neu eu harestio hyd yma.
Mae hynny'n cynnwys rhyddhau'r rhai a ymosododd ar swyddogion heddlu, dinistrio ffenestri neu dorri i mewn i swyddfeydd y Gyngres.
Yr unig eithriadau yw 14 o'r arweinwyr, sef aelodau o'r grŵp asgell dde Proud Boys and Oath Keepers a gafodd y dedfrydau hiraf.
Bydd eu troseddau'n cael eu hisraddio, sy'n golygu na fydd eu cofnodion yn cael eu dileu, ond byddant yn dal yn cael eu rhyddhau.
Mae disgwyl i nifer gael eu rhyddhau o fewn oriau.
Mae cynllun am barti eisoes ar y gweill ar gyfer Enrique Tarrio, arweinydd y Proud Boys and Oath Keepers.
'Cywilyddus'
Mae Nancy Pelosi, a oedd yn Llefarydd Tŷ Cynrychiolwyr ar adeg y terfysg, wedi ymateb i benderfyniad yr Arlywydd Donald Trump.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Pelosi fod y newyddion yn "sarhau ein system gyfiawnder a’r arwyr a ddioddefodd anafiadau corfforol a thrawma emosiynol wrth iddynt amddiffyn y Capitol, y Gyngres a’r Cyfansoddiad".
Mae hi’n dweud ei bod yn "gywilyddus" bod Donald Trump wedi penderfynu "bradychu swyddogion heddlu sy’n peryglu eu bywydau".
Yn dilyn y terfysg ar 6 Ionawr 2021, fe wnaeth ymchwiliad swyddogol yn yr UDA ddod i'r casgliad nad oedd yr Arlywydd Trump wedi ymyrryd.
Fe ddangosodd tystiolaeth i'r pwyllgor dethol fod yr Arlywydd Trump wedi methu â "gweithredu ar unwaith" yn ystod yr anhrefn.
Fe glywodd y gwrandawiad mai ei fwriad oedd ceisio atal neu ohirio cydnabyddiaeth Joe Biden fel arlywydd newydd trwy beidio ymyrryd.
Fe wnaeth miloedd o'i gefnogwyr ymosod ar yr adeilad, ac fe fu farw pump o bobl yn ystod y digwyddiad. Fe gafodd 100 o swyddogion eu hanafu hefyd.
Mae'r Arlywydd Trump wedi gwadu iddo wneud dim o'i le ar y diwrnod.
Llun: Jim Watson / Pool / AFP