Gatland yn defnyddio iaith fwy ‘addfwyn’ efo’r garfan ifanc
Mae Warren Gatland, hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn dweud ei fod wedi gorfod addasu ei ddulliau hyfforddi oherwydd nifer y chwaraewyr ifanc yn ei garfan.
Mewn cyfweliad cynhwysfawr yn The Sunday Times ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad mae’n cyfaddef fod her fawr yn ei wynebu yn dilyn cyfnod pan mae’r tîm cenedlaethol wedi colli 12 gêm yn olynol yn cynnwys yr un fuddugoliaeth o gwbl yn 2014.
Mae'r gêm yng Nghymru ynghanol cyfnod anodd, argyfyngus yn ôl nifer, a rhai wedi bod yn amau ai'r gŵr o Seland Newydd ddylai fod wrth y llyw.
Gyda holl sgandalau diweddar corff rheoli yr Undeb Rygbi, prinder arian yn y gêm ac ymddeoliad nifer o’r sêr mawr roedd rhaid dod a gwaed ifanc i’r garfan. Ac mae eu hyfforddi nhw yn wahanol iawn i hyfforddi chwaraewyr fel Alun Wyn Jones a Dan Biggar meddai Gatland.
“Mae chwaraewyr hŷn, mewn tîm sydd wedi sefydlu ei hun, yn medru derbyn beirniadaeth ac mi allwch chi, unwaith neu ddwy, golli eich tymer a rhoi pryd o dafod iawn iddyn nhw,” meddai wrth The Sunday Times.
Ond mae’n rhaid bod yn fwy gofalus efo grŵp o chwaraewyr ifanc ac mae’n cydnabod fod ei iaith yn fwy ‘addfwyn'.
“ ‘Da chi ddim isie nhw i fynd i’w cragen,” meddai. " ‘Da chi’n ceisio ail-greu rhai pethau wrth ymarfer ble rydach chi’n rhoi nhw dan gymaint o bwysau â phosib, fel bod ganddyn nhw syniad sut mae hi ynghanol y crochan a’r stadiwm a’r holl ddisgwyliadau.”
Ffrainc 'yr her fwyaf'
Ac nid delio efo’r elfennau yn gysylltiedig â rygbi yn unig mae’n rhaid gwneud.
“Y craffu, p'run a ydi o ar y cyfryngau cymdeithasol neu’r wasg yn gyffredinol, mae popeth yn cael ei chwyddo ddengwaith i’r hyn maen nhw yn gyfarwydd ag o, o ddydd i ddydd.”
Gêm gyntaf Cymru fydd yn erbyn Ffrainc ym Mharis ar ddiwrnod olaf y mis.
“Sut ydych chi’n adeiladu hyder pan mae ganddoch chi yr her fwyaf efo’r gêm gyntaf yn erbyn Ffrainc ym Mharis? Ella bod ni'n mynd yno a dweud fod Ffrainc yn draddodiadol yn rhai araf deg am ddechrau. Ac mae ganddon ni chwaraewyr profiadol yn dod yn ôl, fel Josh Adams a Taulupe Faletau, ac mi fydd hynny yn hwb.”
Gemau eraill Cymru yn y Bencampwriaeth ydi Yr Eidal yn Rhufain, Iwerddon yng Nghaerdydd, yr Alban yng Nghaeredin a Lloegr yng Nghaerdydd.