Newyddion S4C

Cludo dyn ag anafiadau difrifol i’r ysbyty wedi gwrthdrawiad

Y ffordd

Mae dyn 58 oed wedi dioddef o anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a beiciwr yng Nghasnewydd.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl gwrthdrawiad rhwng car (Toyota Aygo glas) a beiciwr ar gyffordd Ffordd Somerton a Ffordd Liswerry rhwng 15:00 a 17:00 ddydd Iau, 16 Ionawr.

Cafodd y beiciwr, dyn 58 oed, ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu unrhyw un â lluniau camera dashfwrdd neu deledu cylch cyfyng, ar Somerton Road ger cyffordd Liswerry Road ar adeg y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw gan ddyfynnu: 2500018554.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.