Cyflenwad wedi dychwelyd i 90% o dai yn Sir Conwy oedd heb ddŵr
Mae cyflenwadau dŵr yfed wedi dychwelyd i'r rhan fwyaf o gartrefi yn Sir Conwy erbyn dydd Sul, yn dilyn atgyweirio peipen oedd wedi ei difrodi.
Dywedodd Dŵr Cymru fore Sul bod tua 90% o'r tai oedd wedi eu heffeithio bellach yn derbyn dŵr yfed unwaith eto.
Roedd hyd at 40,000 o gartrefi a busnesau wedi eu heffeithio ar un cyfnod a hynny dros ardal eang o fewn y sir.
Mae pedair gorsaf ddosbarthu dŵr yfed yn parhau ar agor i gwsmeriaid yn y sir - un yn Zip World ger Betws y Coed, un ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn, un ym Modlondeb, Conwy, ac un ym maes parcio traeth y gorllewin yn Llandudno.
Mewn datganiad, dywedodd Dŵr Cymru: "Mae ein rhwydwaith wedi bod yn ail-lenwi dros nos ac mae cyflenwadau bellach wedi'u hadfer i dros 90% o dai yr oedd eu cyflenwadau wedi'u heffeithio gan y difrod i'r brif bibell ddŵr.
"Rydym yn parhau i gael pawb yn ôl i gael eu cyflenwi y bore yma.
"Rydym wedi trwsio nifer o ollyngiadau llai dros nos wrth i'r system ail-gyrraedd ei phwysedd cywir, ar ôl bod yn wag am ychydig o ddiwrnodau.
"Mae'r cymunedau sydd ar ôl fel arfer yn uwch ac yn gofyn am fwy o bwysau yn y system i adfer y gwasanaeth yn llawn."
Mae Dŵr Cymru wedi cyheddi manylion iawndal i gwsmeriad sydd wedi cael eu heffeithio.
Bydd pob cartref cymwys yn cael £30 mewn iawndal am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: "Bydd sieciau'n cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni.
"Bydd cwsmeriaid busnes yn cael iawndal o £75 am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau ond bydd busnesau hefyd yn gallu cyflwyno hawliadau ar wahân am golli incwm ychwanegol."