Cefnogwyr Caerdydd yn protestio yn erbyn perchnogion y clwb cyn y gêm ddarbi
Fe wnaeth cannoedd o gefnogwyr clwb pêl-droed Caerdydd brotestio yn erbyn bwrdd rheoli’r clwb cyn y gêm dderbi fawr yn erbyn Abertawe brynhawn ddydd Sadwrn.
Roedd yna fflachiadau mwg glas yn ogystal â baneri yn galw ar y perchennog Vincent Tan i adael wrth i gefnogwyr gerdded o Heol y Bont-faen i Stadiwm Dinas Caerdydd.
Daeth yr orymdaith i ben ym mhrif dderbynfa’r stadiwm, lle mynegodd y cefnogwyr eu dicter at y ffordd y mae Caerdydd wedi cael ei redeg yn ystod y degawd a mwy o dan Tan.
Cyn y gêm yn erbyn Abertawe, roedd Caerdydd yn 21ain yn nhabl y Bencampwriaeth, un safle uwchben y safleoedd disgyn.
Roedd her ychwanegol i Gaerdydd hefyd, gyda rheolwr y clwb Omer Riza yn cyhoeddi'n gynharach yn yr wythnos ei fod wedi colli ei dad.
Inline Tweet: https://twitter.com/CardiffCityFC/status/1880622891672416574
Ar y cae, roedd gan gefnogwyr y brifddinas reswm i ddathlu ar y chwiban olaf brynhawn dydd Sadwrn, wrth i'r Adar Gleision guro'r Elyrch yn gyfforddus o 3-0 yn y pen draw, ar ôl dechrau tawel.
Callum Robinson hawliodd dwy gôl i glwb y brifddinas, gyda Dimitrios Goutas yn sgorio'r drydedd.
Mae Caerdydd yn yr 20fed safle yn dilyn y fuddugoliaeth.
Llun: Asiantaeth Huw Evans