Newyddion S4C

Degau o bobl wedi eu hanafu yn dilyn damwain ar lifft sgïo yn Sbaen

Cyrchfan sgïo Astún

Mae o leiaf 30 o bobl wedi’u hanafu, rhai’n ddifrifol, mewn damwain lifft sgïo yn Sbaen.

Digwyddodd y ddamwain yng nghanolfan sgïo Astún, sydd ar ffin Sbaen â Ffrainc, ym mynyddoedd y Pyrenees.

Mae o leiaf 30 o bobol wedi’u hanafu yn y digwyddiad. Mae naw o’r rheiny wedi’u hanafu’n ddifrifol iawn, ac wyth wedi’u hanafu’n ddifrifol, yn ôl adroddiadau cyfryngau lleol.

Nid oes gwybodaeth ar hyn o bryd am beth achosodd y ddamwain.

Roedd yn ymddangos bod delweddau a fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos pobl yn gorwedd ar y llawr. 

Gwelwyd hofrennydd hefyd yn glanio yno.

Dywedodd Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sánchez, ei fod wedi cael “sioc gan y newyddion am y ddamwain”.

"Ein teimladau i'r rhai sydd wedi'u hanafu a'u teuluoedd," meddai.

Llun: Facebook/Astún

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.