Newyddion S4C

'Arwr': Cyn chwaraewr pêl-droed Manchester United, Denis Law, wedi marw yn 84 oed

Denis Law

Mae cyn chwaraewr pêl-droed Manchester United a'r Alban, Denis Law, wedi marw yn 84 oed.

Enillodd Law y Balon D'or yn ystod ei yrfa lewyrchus, yr unig Albanwr i ennill y tlws.

Sgoriodd 237 o goliau mewn 404 o gemau i Manchester United, ac enillodd 55 o gapiau dros ei wlad.

Cafodd ei eni yn Aberdeen a chwaraeodd i Huddersfield, Manchester City a Torino yn ystod ei yrfa.

Enillodd Uwch Gynghrair Lloegr ddwywaith, Cwpan yr FA a Chwpan Ewrop yn ystod ei gyfnod gyda Manchester United.

Cafodd ddiagnosis o Alzheimer's a dementia fasgiwlar yn 2021.

Bu farw ddydd Gwener.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu: "Gyda chalon drom mae ein tad, Denis Law, wedi marw.

“Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at ei les a’i ofal, yn y gorffennol ac yn llawer mwy diweddar.

"Rydyn ni'n gwybod faint o bobl oedd yn ei gefnogi a'i garu ac roedd y cariad hwnnw bob amser yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth. Diolch."

Dywedodd Manchester United fod pawb yn y clwb yn galaru am golli "Brenin y Stretford End".

Fe ychwanegon nhw: “Bydd bob amser yn cael ei ddathlu fel un o chwaraewyr mwyaf ac annwyl y clwb.

“Roedd yn brif sgoriwr ac roedd ei ddawn, ei ysbryd a’i gariad at y gêm yn ei wneud yn arwr.

"Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â theulu Denis a'i ffrindiau niferus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.