Cludo person i'r ysbyty gydag 'anafiadau difrifol' yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
17/01/2025
Mae person wedi ei gludo i'r ysbyty gydag "anafiadau difrifol" yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori yn Sir Gâr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar ffordd yr A48 rhwng Foelgastell a Llanddarog am tua 07.40 ddydd Gwener.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod person wedi'i gludo i'r ysbyty gydag "anafiadau difrifol" a bod eu teulu wedi cael gwybod.
Mae'r ffordd yn parhau ar gau ac mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu rywun a fyddai wedi bod yn yr ardal ac sydd gyda dashcam i gysylltu gyda nhw.