'Heriau sylweddol': Rhybudd y gallai fod yn 48 awr cyn i gyflenwad dŵr Sir Conwy ddychwelyd
'Heriau sylweddol': Rhybudd y gallai fod yn 48 awr cyn i gyflenwad dŵr Sir Conwy ddychwelyd
Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi y gallai gymryd hyd at 48 awr cyn i gyflenwadau dŵr yn Sir Conwy gael eu hadfer yn llawn.
Mewn datganiad brynhawn dydd Iau, dywedodd y cwmni bod atgyweirio'r brif bibell ddŵr sydd wedi byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog yn "cymryd mwy o amser nag a gynlluniwyd."
Mae Dŵr Cymru yn bwriadu cael gorsafoedd dŵr potel yn eu lle yfory yn y sir ddydd Gwener, ond gan fod prinder ar hyn o bryd yn y cyflenwadau o ddŵr potel ledled y DU, maen nhw'n archebu dŵr potel o gyn belled â’r Alban.
Mae 8,000 o gartrefi yn y sir heb gyflenwad dŵr ddydd Iau, ac fe allai hyd at 33,000 yn rhagor gael eu heffeithio'n ddiweddarach.
Mae nifer o ysgolion yn y sir wedi bod ar gau yn ystod y dydd o achos diffyg dŵr yno hefyd.
'Gwaith eithriadol o anodd'
Mewn datganiad am 16:00 brynhawn dydd Iau, dywedodd Dŵr Cymru: "Mae'r brif bibell ddŵr sydd wedi byrstio ddau fetr a hanner o dan wely'r afon ac mae lefel y dŵr yn yr afon yn gwneud y gwaith atgyweirio'n eithriadol o anodd.
"Rydym wedi creu argae i ailgyfeirio’r afon er mwyn gosod blwch o amgylch y bibell sydd wedi’i difrodi fel y gallwn gloddio a chael mynediad i’r brif bibell ddŵr sydd wedi’i difrodi tra’n diogelu ein gweithlu a’r amgylchedd.
"Unwaith y bydd y brif bibell ddŵr wedi’i thrwsio, gallai gymryd hyd at 48 awr cyn i gyflenwadau dŵr gael eu hadfer yn llawn wrth i’r rhwydwaith ail-lenwi – ond bydd rhai cwsmeriaid yn adennill cyn hynny wrth i ddŵr lenwi’r rhwydwaith."
Dywedodd y cwmni eu bod yn blaenoriaethu dosbarthu dŵr potel i 5,000 o gwsmeriaid bregus yn yr ardal, a'u bod yn "cyflenwi dŵr o danceri i'r rhwydwaith i gynnal cyflenwadau i ysbytai lleol."
Yn ôl y cwmni mae ardaloedd Conwy, Abergele, Dolgarrog, Eglwys Bach, Groesffordd, Gwytherin, Henryd, Llanbedr y Cennin, Llanddoged, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Maenan, rhai ardaloedd yn Llanrwst, Pandy Tudur, Pentrefelin, Rowen, Rhyd y foel, Tal y Bont, Tal y Cafn, Tyn Groes a Throfarth wedi eu heffeithio.
Mae Gwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd yn gwasanaethu un o’r rhwydweithiau mwyaf yng Nghymru, gan gyflenwi Dyffryn Conwy yr holl ffordd i Landudno ac mae’n gweithredu dan bwysau sylweddol medd y cwmni.
"Bydd yn cymryd amser i'r system ail-lenwi i lefel ddigonol i adfer cyflenwadau i gwsmeriaid," meddai Dŵr Cymru.
"Ni ellir rhuthro’r broses hon gan y gallai achosi problemau gyda phwysedd dŵr, afliwio dŵr neu rwygiadau pellach."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1879866302476460341
'Heriau sylweddol'
Wrth ymateb i'r sefyllfa, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae yna heriau sylweddol yn parhau i effeithio ar gyflenwadau dŵr mewn nifer o gymunedau yng Nghonwy.
"Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n llawn â'r ymateb aml-asiantaethol ac mae Gweinidogion yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd.
“Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn gweithio mor gyflym â phosibl i adfer cyflenwadau i gartrefi a busnesau yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt, ac mae gwasanaethau cyhoeddus lleol yn canolbwyntio ar sicrhau bod y cartrefi mwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu cyhyd ag y bydd y digwyddiad yn para.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyngor i bobl ar gadw’n ddiogel a hydradu tra bod cyflenwadau dŵr yn cael eu heffeithio ac mae cyflenwadau dŵr potel ychwanegol yn cael eu symud i’r ardaloedd yr effeithir arnynt.”