
8,000 o gartrefi yn Sir Conwy heb ddŵr ac ysgolion ar gau
8,000 o gartrefi yn Sir Conwy heb ddŵr ac ysgolion ar gau
Mae 8,000 o gartrefi yn Sir Conwy heb gyflenwad dŵr fore dydd Iau, ac fe allai hyd at 33,000 yn rhagor gael eu heffeithio'n ddiweddarach.
Mae nifer o ysgolion yn y sir ar gau o achos diffyg dŵr yno hefyd.
Mae'r trafferthion wedi codi ar ôl i bibell ddŵr fyrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd yn Nolgarrog.
Fe allai'r diffyg cyflenwadau dŵr barhau tan ddydd Gwener yn ôl diweddariad ar wefan Dŵr Cymru brynhawn dydd Iau.
Cadarnhaodd Dŵr Cymru fod problemau gyda chyflenwadau yn Ninbych hefyd, yn Sir Ddinbych.
Dywedodd datganiad y cwmni eu bod yn blaenoriaethu dosbarthu dŵr potel i 5,000 o gwsmeriaid bregus yn yr ardal, a'u bod yn "cyflenwi dŵr o danceri i'r rhwydwaith i gynnal cyflenwadau i ysbytai lleol."
Yn ôl y cwmni mae ardaloedd Conwy, Abergele, Dolgarrog, Eglwys Bach, Groesffordd, Gwytherin, Henryd, Llanbedr y Cennin, Llanddoged, Llanfair Talhaearn, Llangernyw, Maenan, rhai ardaloedd yn Llanrwst, Pandy Tudur, Pentrefelin, Rowen, Rhyd y foel, Tal y Bont, Tal y Cafn, Tyn Groes a Throfarth wedi eu heffeithio.
Ysgolion ar gau
Mae ysgolion uwchradd Aberconwy, Bryn Elian ac Eirias, ac ysgolion cynradd Mochdre, Cystennin, Bod Alaw, Llangelynnin, Llandrillo yn Rhos, Eglwysbach, Glan Conwy, Llanddoged, Awel y Mynydd, Bendigaid William Davies, Nant y Groes, Sant Joseff, T Gwynn Jones, Deganwy a Phorth y Felin ar gau, meddai Cyngor Conwy.
Mae gweithwyr Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio ar y safle yn Nolgarrog dros nos ond mae'r gwaith atgyweirio "yn anodd ac yn beryglus gan fod y brif bibell ddŵr wedi byrstio ddau fetr a hanner o dan wely'r afon leol, Afon Ddu."
Ychwanegodd y cwmni eu bod yn "blaenoriaethu dosbarthu dŵr potel i gwsmeriaid bregus ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth."

'Colli arian'
Mae rhai busnesau wedi methu agor fore Iau oherwydd nad oes ganddyn nhw gyflenwad dŵr.
Dywedodd Lisa Walker, perchennog caffi L's Coffee and Bookshop yn nhref Conwy eu bod nhw wedi dysgu am y bibell ddŵr yn byrstio ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Roeddem wedi gweld neithiwr ar y cyfryngau cymdeithasol, a dyna sut roeddem wedi darganfod beth ddigwyddodd,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Dydyn ni heb gael unrhyw fath o gyswllt gan neb am yr hyn sy’n digwydd.
“Mae mis Rhagfyr a mis yma hyd at heddiw wedi bod yn anodd, ac os nad ydym yn gallu agor heddiw byddwn yn colli arian.
“Nid oes gennym ddŵr oer, dŵr poeth yn unig sydd efo ni, felly fydd yn rhaid i ni aros i weld os oes modd i ni agor heddiw.”
Inline Tweet: https://twitter.com/DwrCymru/status/1879799548404531414
Fe fydd Sally Jones, sydd yn gweithio yng nghaffi Cantîn yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy yn agor er gwaethaf y sefyllfa.
Dywedodd wrth Newyddion S4C y bydd hi’n prynu poteli dŵr o’r archfarchnad i’w berwi er mwyn gwerthu te.
“Roeddwn i’n gorfod dweud wrth staff oedd yn teithio o bell efallai na fyddwn ni’n gallu agor heddiw, felly roeddwn i wedi gorfod cynllunio’n gyflym ar ôl gweld y newyddion,” meddai.
“Yn ffodus, mae gennym ni wrn sydd yn gallu berwi dŵr felly fyddai’n gwerthu te a chacennau yn unig, fel ffordd o geisio aros ar agor.
“Os ydw i’n mynd i’r archfarchnad a phrynu poteli mawr o ddŵr fe allai aros ar agor a gobeithio bydd y cwsmeriaid dal yn dod.
“Yn amlwg fydd y toiledau ddim yn gweithio, ond dwi’n gobeithio bydd cwsmeriaid yn deall hynny.”
Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio ar y safle le mae'r broblem wedi codi ers prynhawn ddydd Mercher i drwsio'r bibell.
Mae tanceri yn cael eu defnyddio i symud dŵr er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i gyflenwi gymaint o gwsmeriaid a phosib, medd y cwmni.
Ymddiheurodd Dŵr Cymru i'r nifer o gwsmeriaid sydd heb gyflenwad dŵr a'u bod yn gweithio i "ddatrys y mater hwn cyn gynted â phosibl".
Gallai cwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio weld y newyddion diweddaraf am y gwaith i drwsio'r bibell ar wefan Dŵr Cymru.
Llun: Dŵr Cymru