Dyn oedd 'methu rhedeg 50 metr' eisiau 'ysbrydoli eraill' wrth ymarfer ar gyfer Ironman
"Doeddwn i methu nofio o un ochr o'r pwll i'r llall na redeg 50 metr."
Mae dyn oedd yn pwyso 23 stôn eisiau "ysbrydoli eraill" trwy ymarfer ar gyfer her hanner Ironman Abertawe.
Penderfynodd Owen Peddle, sy'n 23 oed, gofrestru ar gyfer y ras ar ôl gweld ei ffrindiau yn cwblhau her Ironman yn Ninbych-y-pysgod ym mis Medi.
Er mwyn gorffen her hanner Ironman mae angen nofio 1.2 milltir, seiclo 56 milltir a rhedeg hanner marathon.
Ers dechrau ymarfer ym mis Hydref mae Owen, sydd yn byw yn Nhŷ Gwyn, Casnewydd wedi bod yn cofnodi ei sesiynau ymarfer ar TikTok.
"Dechreuais i drwy ffilmio fideos yn dangos beth roeddwn i'n gwneud mewn diwrnod, ond doeddwn i ddim yn hyderus i'w huwchlwytho," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ond ar ôl siarad gyda ffrind penderfynais i 'pam lai'. Os ydw i'n postio pob dydd mae'n fy nal i i gyfrif.
"Mae postio pob dydd yn fy nghadw i fynd, yn enwedig ar y diwrnodau yna pan dydw i ddim eisiau ymarfer, pan nad oes gennych chi'r cymhelliant i wneud."
'Allan pob nos Sadwrn'
Mae Owen yn gweithio fel hyrwyddwr digwyddiadau ar gyfer myfyrwyr, yn bennaf yn trefnu digwyddiadau mewn clybiau nos.
Dywedodd ei fod yn gweithio mewn clybiau nos ar nosweithiau Mercher ac yna allan dydd Sadwrn, a'i fod eisiau newid hynny.
"Roedd fy mywyd yn golygu allan nos Fercher mewn clwb nos, ac allan gyda fy ffrindiau nos Sadwrn mewn clwb nos.
"Roeddwn i mewn cylchred o fynd allan pob wythnos ac roeddwn i eisiau torri i ffwrdd o hynny."
Nid oedd Owen yn gallu nofio o un ochr o'r pwll i'r llall, na rhedeg 50 metr cyn dechrau ymarfer.
Bellach mae wedi cwblhau tri mis dan hyfforddiant ei ffrind, sydd yn hyfforddwr crossfit.
"Roeddwn i'n nerfus iawn ar y dechrau, doeddwn i ddim yn gallu nofio o un ochr i'r pwll i'r llall na hyd yn oed rhedeg 50 metr.
"Ond mae hynny wedi troi i gyffro nawr. Dwi lawr o 23 stôn i 21 stôn a dwi'n teimlo'n dda wrth ymarfer.
"Dwi'n gwneud saith sesiwn ymarfer yr wythnos, ac i ddechrau roeddwn i'n orfod dysgu eto sut i nofio a seiclo, ond mae pethau yn gwella."
'Teimlad anhygoel'
Mae fideos Owen o'i sesiynau ymarfer ar TikTok wedi cael eu gwylio cannoedd ar filoedd o weithiau.
Dros y misoedd diwethaf mae wedi derbyn nifer o negeseuon gan bobl sy'n dweud ei fod wedi eu hysbrydoli i ddechrau rhedeg, nofio neu seiclo eu hunain.
"Mae'n deimlad neis i ysbrydoli eraill," meddai.
"Dwi erioed wedi meddwl bod rhywun wedi edrych arnaf a meddwl 'dwi eisiau bod fel fe, edrych fel fe.'
"Mae'n bersbectif gwahanol yn derbyn negeseuon gan bobl yn fy niolch am bostio fideos a dweud fy mod i wedi eu hysbrydoli."

Wrth drafod y teimlad pe bai'n cwblhau'r hanner Ironman ym mis Gorffennaf, dywedodd Owen byddai croesi'r llinell yn "gamp anhygoel."
"Fyddai gorffen y ras yn deimlad anhygoel, wir i chi fyddai'n deimlad grêt.
"Dydy Ironman dim fel 10k lle mae canran uchel o bobl yn ei gwblhau, os nad ydych chi'n hyfforddi'n iawn i wneud hwn, dydych chi dim yn ei gwblhau.
"Os galla i groesi'r llinell fe fyddai hynny'n gamp anhygoel, a dydych chi ddim yn gwybod os ydych chi'n mynd i gwblhau’r ras neu beidio.
"I ddyn fel fi oedd wedi dechrau hyfforddi yn 23 stôn, fyddai cwblhau’r her 'ma yn wych."