
Bywyd yn 'hunllef' yng Nghastell-nedd yn sgil problemau cymdeithasol

Bywyd yn 'hunllef' yng Nghastell-nedd yn sgil problemau cymdeithasol
Mae un o drigolion a pherchennog busnes yng Nghastell-nedd wedi disgrifio'r dref fel lle "hunllefus" i fyw.
Yn ôl Simone Gould, nid yw rhai pobl yn teimlo'n ddiogel yno, yn sgil cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd Heddlu'r De a Chyngor Sir Castell-nedd Port Talbot eu bod yn cyd-weithio er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r problemau.
Ers iddi symud i fyw i Gastell-nedd, mae Ms Gould wedi bod yn dyst i nifer o ddigwyddiadau y tu allan i'w busnes.
“Mae'n ddyddiol, yn llythrennol bod dydd mae 'da chi'r heddlu yma," meddai.
"Roedd yna armed police ar y stryd, roeddwn i dan glo yn fy siop yn methu â gadael. Digwyddodd hynny ddwywaith!
"Fe wnes i ddod o hyd i buteiniaid yn fy iard unwaith, yn gwneud busnes ar fy monet. Rydw i wedi dod o hyd i garthion dynol yn fy iard, chwistrelli, bagiau o ddillad a chaniau.”
Honnir rhai mai preswylwyr gwesty'r Ambassador yng nghanol y dref sy'n gyfrifol am y digwyddiadau gwrthgymdeithasol.
Mae'r gwesty bellach yn gartref i tua 170 o bobl fregus a digartref.

Mae Sian Janes wedi cwestiynu'r gred yma ac yn ofni fod preswylwyr yn cael bai ar gam.
“Rydw i'n byw yn weddol agos iawn i ganol y dre a dwi ddim yn gweld y problemau hyn pob dydd. Dwi'n gwybod bod 'na broblemau. Ond dwi ddim yn credu bod nhw'n fwy neu lai na unrhyw dre neu ddinas arall ar hyn o bryd, dros y wlad.
"Mae 'na broblemau, mae rhaid i ni ateb y problemau 'na, ac mae rhaid i ni gydweithio gyda'n gilydd y datrys y problemau. Ond i feio un garfan o'r gymdeithas, ac i feio pobl sy' ar hyn o bryd o dan anfantais fawr, wel ma' fe'n becso i.”
Dywed y cyngor eu bod yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd gan bobl leol.

"Dwi'n meddwl bod pobl leol bach yn upset. Ni'n dechrau cael bad reputation," meddai'r Cynghorydd Jamie Evans.
Pobl yn dweud, na paid â mynd i Gastell-nedd bach yn rough fan hyn. Dwi'n dwli ar Gastell-nedd, fi'n dod o Gastell-nedd, fi'n byw yng Nghastell-nedd, dwi'n dwli ar ble dwi'n byw.
Mae cynllun wedi'i lansio i geisio mynd i'r afael a'r problemau, gyda'r llu a'r cyngor yn cydweithio i geisio gostwng nifer y troseddau.