Ymchwilio i achos o hiliaeth yn academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi cadarnhau fod ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn adroddiadau o hiliaeth yn academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Dywed erthygl yn The Athletic fod chwaraewr ifanc yn honni iddo gael ei gam-drin yn hiliol gan ei gyd-chwaraewyr.
Y gred yw bod ymchwiliwr y Gymdeithas wedi clywed fod aelodau o staff wedi “methu ag ymateb mewn ffordd foddhaol, a dod a’r cam-drin i ben”.
Mae'r ymchwiliad yn ymwneud â digwyddiad oedd yn cynnwys plant rhwng 10 a 11 oed ar y pryd, yn ôl CPD Dinas Caerdydd.
Mae'r chwaraewr , sydd bellach yn 14 oed ac wedi gadael y clwb, yn honi iddo glywed y chwaraewyr eraill yn gwneud sŵn mwnci arno, ac iddynt rwbio bananas ar ei ddillad.
Dywed The Athletic ei fod bellach wedi gadael y clwb.
Mewn ymateb i’r adroddiadau, dywedodd llefarydd ar ran elusen Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth eu bod yn “ymwybodol o honiadau o hiliaeth yn ymwneud â chwaraewyr ieuenctid yn Academi Dinas Caerdydd.
“Rydyn yn credu fod y broses o ymchwilio i'r honiadau difrifol hyn wedi cychwyn gan yr FA. Byddwn yn aros i'r cyrff priodol gynnal ymchwiliad trylwyr a ffurfiol cyn i ni wneud unrhyw sylwadau pellach.
“Bydd Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn parhau i weithio gyda chymunedau sy'n darparu gweithdai addysgol ac yn atgyfnerthu ein safiad dim goddefgarwch yn erbyn hiliaeth a phob math o wahaniaethu ym mhob rhan o'n cymdeithas. "
Dywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd "nad ydy hi'n briodol" iddynt ddarparu "sylwadau manwl oherwydd amgylchiadau cymhleth yr ymchwiliad".
"Does yr un hyfforddwr nag aelod o staff yn rhan o'r ymchwiliad, ar wahân er mwyn darparu tystiolaeth os bydd galw arnynt, ac mae'r ymchwiliad yn ymwneud â chwaraewyr oedd yn 10 neu 11 oed ar y pryd.
"Rydym y cydweithredu'n llawn ag adran gydymffurfio'r FA.
"Rydym yn pryderu bod y cyfryngau yn portreadu plant ifanc mewn goleuni mor wael, pan mae'r ymchwiliad yn un sydd ddim mor syml ag yr hyn sy'n cael ei adrodd.
"Byddem yn gobeithio eich bod yn gwerthfawrogi'r sensitifrwydd o amgylch y materion hyn, yn enwedig gan ystyried oedran y bechgyn dan sylw, a'r effaith ar unigolion yn y grŵp a'r chwaraewr ei hun.
"Mae gan yr EFL a'r Uwch Gynghrair reolau llym ac mae disgwyl i bob clwb gadw atynt.
"Mae gennym bolisi o ddim goddefgarwch tuag at hiliaeth, ac mae goddefgarwch cymdeithasol yn rhan allweddol o'n rhaglenni addysg.
"Byddwn yn gwneud datganiad pellach ar ôl cwblhau'r ymchwiliad."
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Cymdeithas Bêl-droed Lloegr am ymateb.
Llun: Huw Evans