Mike Smith, cyn-reolwr Cymru wedi marw yn 83
Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Mike Smith, wedi marw yn 83 mlwydd oed.
Y Sais cyntaf i reoli’r tîm, bu wrth y llyw ddwy waith yn ystod ei yrfa, yn gyntaf rhwng 1974-79, ac eto rhwng 1994-95.
Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Mr Smith.
Yn wreiddiol o Hendon yn Llundain, bu’n chwarae ar lefel amatur i’r Corinthian Casuals cyn troi at hyfforddi.
Gwnaeth enw iddo’i hun fel Cyfarwyddwr Hyfforddi Cymdeithas Bêl-droed Cymru, cyn mynd ymlaen i gymryd lle Dave Bowen fel rheolwr y prif dîm yn 1974.
Ef oedd yn gyfrifol am arwain Cymru i rowndiau’r wyth olaf ym Mhencampwriaeth Euro 1976, ond daeth y freuddwyd honno i ben yn dilyn colled o 3-1 yn erbyn Iwgoslafia.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru