Tywyn: Apêl am wybodaeth wedi i blentyn gael ei daro gan gar
08/01/2025
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i blentyn gael ei daro gan gar yng nghanol Tywyn yn ne Gwynedd fore dydd Mercher.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 09:00 rhwng cerbyd llwyd a phlentyn oedd yn croesi'r ffordd ar feic wrth y groesfan ger yr ysbyty yn y dref.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam o gwmpas adeg y gwrthdrawiad i gysylltu dros y we neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod C003341.