Teyrngedau i'r gwleidydd a'r amaethwr o Fôn, Peter Rogers
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cyn Aelod o’r Cynulliad a chynghorydd Sir Ynys Môn, Peter Rogers, sydd wedi marw yn 85 oed.
Cafodd ei eni yn Wrecsam a’i fagu ym Mhenbedw, cyn ymgartrefu ym Mrynsiencyn.
Cafodd ei ethol i gynrychioli'r Ceidwadwyr Cymreig yng Nghynulliad cyntaf Cymru yn 1999 fel aelod rhanbarthol dros ogledd Cymru.
Ac yntau hefyd yn ffermwr, roedd hefyd yn llefarydd amaethyddol dros yr wrthblaid yn ystod ei dymor yn y cynulliad.
Yn ddiweddarach, fe dreuliodd 18 mlynedd fel aelod annibynnol o Gyngor Sir Ynys Môn, gan gynrychioli ward Rhosyr ac yn ddiweddarach Bro Aberffraw, rhwng 2004 a 2022.
Fe wasanaethodd fel Uwch Sirydd Gwynedd rhwng 2008 a 2009, ac fe gynrychiolodd Cyngor Môn ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.
Yn ogystal â rhedeg busnes teuluol ar ei fferm ym Mrynsiencyn, roedd hefyd yn ynad heddwch.
Yn gynharach yn ei fywyd, bu'n chwarae rygbi proffesiynol dros Gaerdydd a Phen-y-bont.
'Angerddol iawn, iawn'
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar y byddai "colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei nabod".
"Roedd yn gymeriad anhygoel yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac yn angerddol iawn, iawn," meddai.
"Roedd yna sawl araith danbaid yn erbyn gweinidogion Llafur, a rywfaint o ymadroddion lliwgar ar y Cofnod o ganlyniad i hynny.
"Gweithiodd yn anhygoel o galed dros bobl gogledd Cymru, pobl yr oedd yn falch iawn o’u cynrychioli, ac wrth gwrs bu’n gwasanaethu gyda rhagoriaeth fel cynghorydd sir Ynys Môn dros y blynyddoedd, hefyd.
"Bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb, yn enwedig ei deulu, ac rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf atynt."
'Dyn egwyddorol'
Un a weithiodd efo Mr Rogers am bron i ddau ddegawd oedd ei gyfaill, a chyn arweinydd y cyngor, Bryan Owen.
Dywedodd Mr Owen: "Dwi’n nabod Peter ers i ni ddechrau gweithio efo’n gilydd yn 2004, nath fo a finna ddod mewn i’r cyngor yr un adeg.
"Ag mi oeddwn i’n dal i neud efo fo tan yn ddiweddar iawn, nes i weld o cyn Dolig a gawson ni sgwrs dda.
“Oedd Peter yn ddyn ei bobl yn yr ardal, i ddeud y gwir. Roedd o’n cael ei ail-ethol am y gwaith oedd o di ‘neud dros y blynyddoedd.
"Be oedd yn dda efo Peter, oeddach chi’n gallu ffraeo efo fo heddiw, ond pen chwarter awr wedyn oedd bob dim yn iawn eto, doedd o byth yn dal dig.
"Oedd o’n ddyn gweithgar ofnadwy fel aelod lleol, ac mi oedd o’n egwyddorol iawn. Mi oedd o bob tro yn cefnogi’r bobol oedd wir eisiau ei gefnogaeth."
Fe ychwanegodd ei fod yn "gweithio'n galed" ar ei fferm ar gyrion Brynsiencyn, sydd yn fusnes sydd bellach dan reolaeth ei fab, Richard.
“Mi oedd Peter yn uchel iawn ei barch, cydwybodol ofnadwy," meddai.
"Oedd o dal i weithio dros bentwr o bobol, ac mi fu’n ffonio fi, ‘Morning Charlie, how are you this morning?’ ac yn gofyn be allwn ni wneud i helpu’r bobol yma. Reit i’r diwadd. Mi oedd o’n un da."
'Pencampwr dros ffermwyr'
Dywedodd Janet Finch Saunders, Aelod o’r Senedd dros y Ceidwadwyr Cymreig, fod aelodau’r blaid wedi cynnal munud o dawelwch i gofio am Mr Rogers, ar gychwyn cyfarfod grŵp y blaid yn y Senedd fore Mawrth.
“Roedd wir yn bencampwr dros y ffermwyr ac i fywyd cefn gwlad yma yng Nghymru,” meddai.
“Roedd yn ddyn oedd yn siarad â gwir angerdd, oedd yn siarad ei feddwl ac yn rhywun oedd yn gadarn iawn yn ei dadleuon.
“Ar lefel bersonol, roedd o wastad yn hynod o gwrtais a chymwynasgar i minnau, ac roedd yn fy annog pan ddechreuais fel darpar aelod y Senedd.
"Rydw i’n ystyried fel nid yn unig un o fawrion Ynys Môn, ond ar draws Cymru yn ogystal.
"Mi fydd yn cael ei gofio fel dyn llawn cymeriad, ac yn sicr mi fydd yn cael ei gofio gan bobl o bob lliw gwleidyddol yng Nghymru.
"Mi fydd golled enfawr ar ei ôl. Roedd ganddo lais enfawr ond pan oeddech chi’n ei gwrdd, roedd yn berson mor garedig.
"Os yr oedd yn credu mewn rhywbeth, mi fydda’n dilyn i fyny ar hynny. Mi ydan ni angen mwy o wleidyddion fel Peter y dyddiau yma.
"Mae fy nghydymdeimladau dwysaf gyda’i deulu."
Mae'n gadael ei wraig, Margaret, ei feibion Richard a Simon, a phump o wyrion.