Newyddion S4C

Gêm allweddol rhwng y Bala a Chaernarfon yn y Cymru Premier JD

Sgorio
Chwaraewyr Y Bala yn dathlu sgorio yn erbyn Penybont

Am y trydydd tro o fewn 10 diwrnod mi fydd Y Bala a Chaernarfon yn paratoi i gyfarfod ar Faes Tegid wedi i’r gêm gael ei gohirio ddwywaith yn y pythefnos diwethaf oherwydd y tywydd.

Pwynt yn unig sy’n gwahanu’r Bala a Chaernarfon yng nghanol y tabl ac felly mae hon yn ornest allweddol yn y ras am y Chwech Uchaf.

Brynhawn Sadwrn mi fydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy, a byddai buddugoliaeth i’r Bala nos Fawrth yn cadarnhau eu lle yn yr hanner uchaf.

Mae’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont a Hwlffordd eisoes wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf.

Ond mae pum clwb arall yn dal i gystadlu am y tri safle olaf ymysg yr elît.

Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ac mae criw Colin Caton mewn safle addawol i wneud hynny eto eleni yn dilyn rhediad o naw gêm gynghrair heb golli (cyfartal 7, ennill 2).

Gormod o gemau cyfartal yw prif broblem Y Bala eleni gan fod 11 o’u 20 gêm gynghrair wedi gorffen yn gyfartal, yn cynnwys gemau oddi cartref yn Llansawel, Y Fflint, Y Drenewydd ac Aberystwyth, ble byddai’r Bala wedi disgwyl gadael gyda’r triphwynt.

Mae Caernarfon wedi cyrraedd yr hanner uchaf ym mhump o’u chwe tymor ers esgyn i’r uwch gynghrair, ond ar ôl colli eu dwy gêm ddiwethaf mae tîm Richard Davies ym mhell o fod yn ddiogel o’u lle ymysg yr elît eleni.

Gorffennodd hi’n ddi-sgôr yn y gêm gyfatebol rhwng y clybiau yma ar yr Oval ym mis Awst, sef y bumed gêm gyfartal yn olynol rhwng y ddau dîm.

Dyw’r Bala heb golli yn eu 12 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (ennill 6, cyfartal 6), ers y golled o 3-0 ar yr Oval ym mis Mai 2021 ble sgoriodd yr amddiffynnwr Max Cleworth ddwy gôl i’r Cofis yn ystod ei gyfnod ar fenthyg o Wrecsam.

Record cynghrair diweddar: 

Y Bala: ➖➖✅✅➖

Caernarfon: ✅➖✅❌❌

Gemau olaf cyn yr hollt – Dydd Sadwrn, 11 Ionawr am 12:45:

Aberystwyth v Llansawel

Caernarfon v Y Fflint

Cei Connah v Y Bala

Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd

Y Barri v Hwlffordd

Y Drenewydd v Pen-y-bont

Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.