Newyddion S4C

Diwrnod olaf Justin Welby yn Archesgob Caergaint wedi ei ymddiswyddiad

Justin Welby

Mae Archesgob Caergaint, Justin Welby yn treulio ei ddiwrnod olaf yn y swydd wrth iddo baratoi i gamu o'r neilltu oherwydd methiannau yn y modd y deliodd â sgandal camdrin plant o fewn Eglwys Loegr. 

Bron ddeufis ers iddo gyhoeddi ei ymddiswyddiad, bydd yn rhoi'r gorau i'r swydd yn ffurfiol am hanner nos, nos Lun.  

Penderfynodd Justin Welby nad oedd modd iddo barhau yn Archesgob Caergaint, ar ôl i adolygiad damniol gael ei gyhoeddi i ymddygiad y bargyfreithiwr John Smyth, oedd wedi ei gyhuddo o gam-drin cannoedd o fechgyn ifanc dros gyfnod o ddegawdau.

Fe gafodd adolygiad annibynnol Makin ei gyhoeddi ar 7 Tachwedd 2024, gan ddatgelu bod Smyth, bargyfreithiwr oedd yn gysylltiedig ag Eglwys Loegr, wedi cam-drin hyd at 130 o fechgyn mewn tair gwlad.

Yn ôl yr adroddiad, roedd Smyth wedi cynnal ymosodiadau rhywiol, corfforol, seicolegol ac ysbrydol "trawmatig" mewn gwersylloedd haf Cristnogol yn yr 1980au a'r 1990au, tra'n gweithio i'r elusen Gristnogol Iwerne Trust.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad y gallai Smyth fod wedi wynebu cyfiawnder pe bai Justin Welby wedi rhoi gwybod i'r heddlu yn swyddogol yn 2013.

Olynydd

Prin yw ymddangosiadau cyhoeddus Justin Welby ers canol Tachwedd, a doedd e ddim yn arwain y gwasanaeth Dydd Nadolig traddodiadol yng Nghadeirlan Caergaint, dros bythefnos yn ôl.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Cymdeithas y Plant wedi gwrthod cyfraniad Nadolig gan Mr Welby gan nodi y byddai ei dderbyn yn groes i'r "egwyddorion sy'n sylfaen i'w gwaith".

Bydd Mr Welby yn treulio bore Llun yn ei gartref ym Mhalas Lambeth yn Llundain cyn mynd i wasanaeth eglwysig amser cinio ac yna gweddi hwyrol yn ddiweddarach yn y dydd. 

Does dim disgwyl i olynydd gael ei ddewis am gryn amser, gyda rhai yn darogan na fydd cyhoeddiad tan dymor yr hydref.    

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.