Newyddion S4C

'Llai hyderus yn Saesneg' medd y Gymraes ar The Traitors

Elen

Mae'r erthygl hon yn trafod datblygiadau penodau cyntaf rhaglen The Traitors 

Mae'r Gymraes Gymraeg ar raglen The Traitors wedi bod yn sôn am y profiad o gystadlu ym mhenodau cyntaf y gyfres, gan nodi ei bod yn llai hyderus yn cyfathrebu yn ei hail iaith, sef Saesneg.

Collodd Elen Wyn bleidlais yn y castell Albanaidd, gan arwain at ei hymadawiad cynnar o'r gyfres.   

Roedd nifer o'r cystadleuwyr eraill yn credu ei bod hi'n fradwraig, er ei bod hi ymhith y ffyddloniaid mewn gwirionedd. 

Yr her i'r ffyddloniaid yn y gyfres ydy darganfod pwy yw'r bradwyr yn eu plith. 

Wrth ddatgan, ar ôl colli'r bleidlais, ei bod hi mewn gwirionedd yn "ffyddlon" fe achosodd hynny siom a rhwystredigaeth ymhlith gweddill y ffyddloniaid.  

Datgelodd hynny yn Gymraeg gyntaf drwy ddweud "Dw i yn ffyddlon. I'm a faithful".  

'Prawf mawr'

Ar raglen Lorraine ar ITV mae Elen wedi bod yn trafod ei phrofiad yn y castell gan nodi ei bod hi yn llai hyderus yn cyfathrebu â siaradwyr Saesneg.  

"Fy ail iaith ydy hi a Chymraeg yw fy iaith gyntaf," meddai. 

"Hyd yn oed pan rwy'n siarad nawr, rwy'n cyfieithu ar yr un pryd, felly dydw i ddim mor hyderus gyda siaradwyr Saesneg ta beth, felly roedd hynny yn brawf mawr i fi."

Ychwanegodd ei bod hi "wir allan o'i dyfnder" ac yn "rhy sensitif" yn ystod ei chyfnod yn y castell.  

Cyn darllediad cyntaf y gyfres newydd o The Traitors Ddydd Calan, dywedodd Elen Wyn, sy'n gyfieithydd 24 oed, ei bod hi’n meddwl y byddai siarad Cymraeg fel iaith gyntaf yn fantais ar y rhaglen.

Yn ogleddwraig sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, roedd hi ymhlith 25 o ymgeiswyr sy'n gobeithio ennill swm sylweddol o arian ar gyfres.

Dywedodd Elen ei bod yn hyfforddi i fod yn gantores opera. Fe wnaeth hi gystadlu yn Unawd mezzo/contralto/gwrth-denor 19 ac o dan 25 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

"Rydw i wedi arfer perfformio, sy'n golygu gwisgo math o fwgwd," meddai.

"Dydw i ddim yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain eto, ond dyna'r freuddwyd."

Image

Llun: BBC

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.