Mae llai o blant yn mwynhau darllen - ond beth yw'r ateb?
Mae llai o blant yn mwynhau darllen - ond beth yw'r ateb?
"Dwi yn ymwybodol bod ‘na lai o blant yn darllen achos ma’ ‘na lai yn prynu!"
Dyw un o awduron amlycaf Cymru ddim yn synnu o glywed bod llai o blant erbyn hyn yn dweud nad ydyn nhw'n hoffi darllen.
Yn ôl Bethan Gwanas, mae teclynnau digidol yn rhannol gyfrifol, a mwy o weithgareddau hamdden bellach yn golygu nad oes gan blant yr amser i droi at lyfrau.
“Dwi’m yn meddwl bod angen i ni banicio, ond fel awdur, dwi isho gwneud bywoliaeth yndydw!” meddai Bethan Gwanas.
“Mae pres yn brin, ond ’sa’n neis tasa rhywun yn buddsoddi mewn criw o bobl greadigol i ddod at ei gilydd i feddwl am syniadau sut i gael pobl ifanc a phlant yn mwynhau darllen eto.”
Lefel isaf
Yn 2024 - rodd canran y plant a’r bobl ifanc rhwng 8 - 18 oed oedd yn dweud eu bod yn mwynhau darllen ar ei lefel isaf ers i’r Ymddiriedolaeth Ddarllen Genedlaethol ddechrau’r gwaith ymchwil yn 2005.
Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar ymatebion gan 76,131 o blant a phobl ifanc drwy Gymru a Lloegr.
Gydag 1 o bob 3 (34.6%) yn unig yn dweud eu bod yn mwynhau darllen yn eu amser hamdden, roedd ychydig yn rhagor yn dweud eu bod yn mwynhau darllen yn yr ysgol (40.5%).
Yn Ysgol Bro Sion Cwilt ger Synod Inn, Ceredigion, cymysg oedd y brwdfrydedd dros ddarllen.
“Dwi’n darllen pan mae mam a dad yn gofyn i fi ddarllen,” oedd ymateb Osian sy’n 8 mlwydd oed.
“Falle dwywaith yr wythnos, dependo os fi ‘da digon o amser,” meddai Daniel, sydd yn brysur gydag ymarferion pêl-droed a rygbi.
Roedd Lydia yn barod i gyfaddef bod yn well ganddi farchogaeth a ffermio gyda’i rhieni, er ei bod yn llawn sylweddoli pwysigrwydd darllen;
“Ti’n dysgu geiriau newydd a ti’n gallu dysgu shwt mae ysgrifennu geiriau anodd,” meddai Lydia.
Yn ôl y gwaith ymchwil, un ymhob pump (20.5%) yn unig ddywedodd eu bod yn darllen rhywbeth yn ddyddiol yn eu hamser eu hunain, sef y lefel isaf ers i’r Ymddiriedolaeth Ddarllen Genedlaethol ddechrau ar eu gwaith ugain mlynedd nôl.
'Creadigol'
Yn Bennaeth ar Ysgol Bro Sion Cwilt, mae Caryl Evans yn rhoi blaenoriaeth i sgiliau darllen o fewn y dosbarth ac yn sylweddoli pwysigrwydd y grefft.
“Wrth ddatblygu sgiliau darllen, mae sillafu yn gwella ond mae hefyd o ran sgiliau ysgrifenedig," meddai.
"Mae’r plant yn fwy creadigol. Mae’r eirfa hefyd yn bwysig, mae nhw’n dysgu geiriau newydd a mae hwnna’n help mewn amryw o feysydd yn yr ysgol.”
Ond oes yna ddigon o adnoddau ar gyfer darllenwyr Cymraeg eu hiaith?
“Dwi’n meddwl bod y cyfresau Saesneg yn denu mwy o blant i ddarllen ond dwi yn meddwl bod adnoddau Cymraeg yn datblygu, ond na, fi’n credu ein bod ni ar ei hôl hi ychydig bach o ran y Gymraeg,” meddai Caryl Evans.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn sylweddoli’r angen i wella sgiliau darllen.
“Mae’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg wedi cyflwyno cefnogaeth ychwanegol amrywiol ar gyfer ysgolion, gan gynnwys mwy o gyllid er mwyn cefnogi cynlluniau llwyddiannus sydd eisoes yn bodoli," meddai llefarydd.
“Ry’ ni hefyd yn ariannu cynlluniau darllen er mwyn cefnogi ac hybu teuluoedd i fwynhau darllen gyda’i gilydd.
"Mae hyn yn cynnwys ‘Her Darllen yr Haf’ mewn llyfrgeolledd ar draws Cymru, a Bookstart sy’n rhoi llyfrau, adnoddau a gweithgareddau i deuluoedd.”
Tra bod nifer y llyfrau sy’n cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg wedi cynyddu dros yr 20 mlynedd diwethaf yn ôl Bethan Gwanas, mae’n teimlo mai gwella’r dechneg o hyrwyddo sydd eu hangen fel bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael.
“Rwan ma’ gynnoch chi bob math o lyfrau i apelio at bawb, ond dydy pobl ddim yn clywed amdanyn nhw," meddai.
"Os da chi’n sownd yn eich cyfryngau cymdeithasol, eich TikToks, da ni angen sylw i lyfrau Cymraeg ar y TikTok. A does na’m digon o hynny yn digwydd.”