Wrecsam: Synwyryddion 'clyfar' mewn blodau yn arbed £32,000 i’r cyngor
Mae synwyryddion 'clyfar' wedi arbed £32,000 i Gyngor Wrecsam drwy leihau faint o ddyfrio oedd yn cael ei wneud i flodau’r ddinas dros yr haf.
Mae adolygiad diweddaraf Menter Trefi Clyfar Wrecsam yn dangos bod y ddinas wedi gallu arbed dros 1,000 litr o ddŵr y dydd, ac wedi treulio tair awr yn llai yn gofalu am y blodau, drwy ddefnyddio’r synwyryddion clyfar.
Dros gyfnod o saith mis, mae’r data wedi arbed £32,000 i’r Cyngor, medden nhw.
Mae Wrecsam wedi parhau i arwain rhaglen Dinasoedd Clyfar Cymru gan ddefnyddio pecyn gwerth £102,000 gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys grant £72,000 ynghyd â gwerth £30,000 o dechnoleg a roddwyd i’r awdurdod.
Yn ychwanegol i’r synwyryddion lleithder, mae Cyngor Wrecsam wedi gosod synwyryddion llifogydd sy’n rhybuddio swyddogion pan fydd lefelau dŵr yn codi yn y cwlfer y tu ôl i Eglwys hanesyddol San Silyn, gan ganiatáu i gamau diogelu gael eu cymryd yn gynt.
Mae’r rhaglen Dinasoedd Clyfar hefyd wedi gweld sgriniau-cyffwrdd gwybodaeth ddigidol yn cael eu gosod ar draws Wrecsam fel rhan o bartneriaeth gyda Menter Môn, yn ogystal â seddi sy’n cynnig pwyntiau gwefru ffonau di-wifr a USB am ddim ledled y ddinas, gyda batris yn cael eu hailwefru gan bŵer solar.
Mae'r cyngor hefyd wedi gosod synwyryddion biniau sy'n plotio llwybrau casglu gwastraff ar gyfer biniau cyhoeddus yn seiliedig ar ba mor llawn ydyn nhw i gadw mannau cyhoeddus yn lanach.
Y llynedd, fe wnaeth Cyngor Wrecsam osod synwyryddion CO2 yn Ysgol Gynradd Plas Coch i fonitro ansawdd yr aer o fewn yr ysgol a rhoi synwyryddion ansawdd sain ac aer o fewn adeiladau’r cyngor.
Yn ôl adroddiad gan y Town Centre Task and Finish Group: “Mae’r fenter Dinasoedd Clyfar wedi bod yn datblygu ers 28 mis bellach.
“Mae wedi ennill momentwm gan fusnesau, Prifysgol Wrecsam, Uchelgais Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru.
“Mae Wrecsam bellach yn cael ei gweld fel arweinydd cenedlaethol mewn gweithredu technoleg i wella profiad defnyddwyr a chynorthwyo gyda’r pwysau a wynebir gan wasanaethau'r cyngor.”