Newyddion S4C

Galw ar bobl i beidio ffonio 999 os nad oes angen wrth i ‘ddigwyddiad argyfwng’ ddod i ben

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi galw ar bobl i beidio â ffonio 999 os nad oes angen wrth i “ddigwyddiad argyfwng” ddod i ben.

Roedd dros 340 o alwadau 999 yn disgwyl am ymateb pan gafodd yr argyfwng ei gyhoeddi nos Lun, a hynny am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr 2020, meddai’r ymddiriedolaeth. 

Roedd y gwasanaeth wedi galw ar bobl i alw y llinell frys mewn “argyfwng difrifol” yn unig. 

Roedd hynny’n cynnwys ataliad y galon, poen yn y frest neu anawsterau anadlu, colli ymwybyddiaeth, tagu, neu waedu trychinebus.

Dywedodd Judith Bryce, cyfarwyddwr cynorthwyol gweithrediadau'r gwasanaeth ambiwlans ddydd Mercher bod y digwyddiad argyfwng “y tu cefn i ni”.

“Ond mae’n hynod o bwysig bod y cyhoedd yn parhau i chwarae eu rhan wrth ddiogelu ein hadnoddau prin ar gyfer y rheini sydd eu hangen fwyaf,” meddai.

“I unrhyw un sy’n dioddef ar ôl dathliadau Nos Galan, ystyriwch beth allwch chi ei wneud gartref i ofalu am eich hun.

“Mae hynny’n cynnwys anhwylderau cyffredin fel peswch, dolur gwddf a dolur rhydd.

“A thra bod rhybuddion tywydd melyn yn parhau mewn grym ar gyfer glaw trwm a gwyntoedd cryfion, cymerwch ofal arbennig i osgoi damweiniau ar y ffordd, yn ogystal â llithro, baglu a chwympo.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.