Cyflwyno cais i ddymchwel tafarn hanesyddol yn y de
Mae cynlluniau wedi eu cyflwyno i gyngor sir yn y de i ddymchwel tafarn adnabyddus a hanesyddol.
Fe allai'r cais cynllunio i Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr olygu y bydd y Cornelly Arms yn cael ei ddymchwel.
Mae’r safle wedi’i leoli ar brif ffordd pentref bach Gogledd Corneli, ger eiddo preswyl Teras yr Ysgol a thua 300 medr o Ysgol Gynradd Corneli.
Yn ôl y cais, sydd wedi cael ei gyflwyno gan gwmni Elite Design Ltd, pe bai'n cael ei gymeradwyo fe fyddai'r safle yn cael ei glustnodi ar gyfer "datblygiad pellach."
Y gred yw bod adeilad wedi cael ei adeiladu gyntaf yn yr 1600au.
Cafodd y dafarn ei chau yn 2014 ac ers hynny mae cyflwr yr adeilad wedi gwaethygu gyda'r to, lloriau a waliau mewn cyflwr peryglus.
Yn ôl yr adroddiad: “Mae ymchwil yn awgrymu bod yr adeilad a ddefnyddiwyd fel tafarn wedi’i adeiladu’n wreiddiol tua 1650 a bod ganddo nodweddion dylunio ac adeiladu sy’n nodweddiadol o adeilad o’r oes hon.
“Mae’r adeilad wedi bod yn wag am gyfnod hir ac mae’n dangos arwyddion sylweddol o adfeiliad.
"Ers hynny mae'r cleient wedi penderfynu dymchwel yr adeilad gyda'r bwriad o ail-bwrpasu'r safle ar gyfer datblygiad pellach."
Os caiff y cais ei gymeradwyo gan y cyngor, mae cynlluniau'n dweud y bydd y gwaith o ddymchwel a chlirio'r safle yn digwydd dros bum cam er nad oes unrhyw awgrym sut y bydd y safle'n cael ei ddefnyddio yn y dyfodol.