Newyddion S4C

Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd: Gerald Davies yn cael ei urddo'n farchog

31/12/2024
Gerald Davies

Mae un o gewri rygbi Cymru, Gerald Davies wedi’i urddo'n farchog ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2025. 

Mae’r cyn chwaraewr rygbi a chyn Lywydd Undeb Rygbi Cymru ymhlith 58 o Gymry sydd ar y rhestr, a hynny am ei wasanaeth i’w gamp ac elusennau yng Nghymru.

Yn wreiddiol o Lansaint yn Sir Gâr a bellach yn byw ym Mhont-y-pŵl yn Nhorfaen, Gerald Davies yw’r unig Gymro i gael ei urddo'n farchog eleni. 

Mae'n dweud fod y newyddion wedi'i "synnu."

Roedd yn chwarae dros Gymru rhwng 1966 a 1978, ac mae e ymhlith chwe Chymro arall yn unig i ennill tair Camp Lawn– sef Gareth Edwards, J.P.R. Williams, Ryan Jones, Adam Jones, Gethin Jenkins ac Alun Wyn Jones. 

Pwy yw’r Cymry adnabyddus sydd wedi eu hanrhydeddu?  

Mae Alun Michael - cyn Gomisiynydd Heddlu De Cymru a chyn Brif Weinidog Cymru (Prif Ysgrifennydd Cymru gynt) hefyd ymhlith y rhai sydd wedi eu hurddo ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. 

Yn wreiddiol o Fôn, mae’r gwleidydd sydd bellach yn byw ym Mhenarth wedi ei anrhydeddu ag OBE am ei gyfraniad tuag at ddiogelwch cyhoeddus. 

Roedd yn arweinydd y blaid Lafur a Phrif Ysgrifennydd rhwng 1999 a 2000 ac roedd yn Gomisiynydd Heddlu De Cymru rhwng 2012 a 2024.

Image
Alun Michael
Alun Michael (Llun: Wikipedia)


Ym maes chwaraeon, mae’r seiclwraig trac Emma Finucane o Gaerfyrddin ymhlith y rheiny sydd wedi eu hanrhydeddu ag MBE. 

Ms Finucane ydy'r fenyw gyntaf mewn 60 mlynedd i ennill tair medal ar gyfer Team GB mewn un Gemau Olympaidd, a hithau wedi ei hanrhydeddu am ei chyfraniad i’r byd seiclo. 

Mae'r athletwraig Sabrina Ann Fortune o’r Wyddgrug hefyd wedi ei hanrhydeddu ag MBE, yn ogystal â Jodie Grinham o Sir Benfro a enillodd medal aur yn y saethyddiaeth yn y Gemau Paralympaidd yn saith mis yn feichiog.

Image
Emma Finucane
Emma Finucane (Llun: Eamonn M. McCormack/PA Wire)

Mae cyn reolwr tîm undeb rygbi Cymru, Alan Phillips hefyd ar y rhestr.

Mae’r cyn chwaraewr Cymru a’r Llewod o Borthcawl wedi ei anrhydeddu ag MBE am ei wasanaeth i Undeb Rygbi Cymru, yn ogystal ag elusennau yng Nghymru. 

Image
Alan Phillips
Alan Phillips (Llun: Undeb Rygbi Cymru)

Mae’r gyfreithwraig Bethan Darwin o Gaerdydd wedi ei hanrhydeddu ag MBE am ei gwasanaeth i fenywod ym musnes ac elusennau. 

Hi yw sylfaenydd 'Superwoman Wales', sef busnes sydd yn codi arian tuag at elusennau trwy gynnal amrywiol ddigwyddiadau.

Image
Bethan Darwin
Bethan Darwin (Llun: @BethanDarwin/X)

Mae Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan, hefyd ar restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Mae wedi derbyn Medal Heddlu’r Brenin yn dilyn 28 mlynedd yn yr heddlu, a phedair blynedd fel Prif Gwnstabl.

Image
Y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan
Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan (Llun: Heddlu De Cymru/Facebook)

Pwy arall sydd yn ymddangos ar y rhestr?

Mae Gaynor Antoinette Legall o Gaerdydd, Cadeirydd grwpiau gwrth-hiliaeth yng Nghymru – yn ogystal â Janice Victoria Williams OBE o Abertawe, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe ymhlith y rhai sydd wedi eu hanrhydeddu â CBE.

Mae John Rhys Howells o Gaerdydd yn gyfarwyddwr gyda Llywodraeth Cymru, ag yntau wedi’i anrhydeddu ag OBE am ei waith yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg. 

Fel sylfaenydd a Phrif Weithredwr ‘Cymru Helpline’ a ‘Progress Cymru Counselling’, mae Debbie Lane o Lanelli wedi’i hanrhydeddu ag OBE am ei gwasanaeth i’r gymuned LHDT+.

Cafodd Kevin Hugh Tumelty, pennaeth diogelwch Senedd Cymru, ei anrhydeddu gydag OBE am ei wasanaeth yn y sector diogelwch. Ac mae'r Athro 
Zaheer Raza Yousef o Benarth, sef Cardiolegydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi ei anrhydeddu hefyd am ei wasanaeth i'r byd iechyd.

Ym maes chwaraeon, mae'r athletwraig Sabrina Ann Fortune o’r Wyddgrug wedi ei hanrhydeddu ag MBE. 

Mae Richard Huw Jones o Lanelli wedi ei anrhydeddu ag MBE hefyd am ei wasanaethau i sefydliad St. John Ambulance, tra bod Anthony Roderic Hill o Gaerdydd wedi'i anrhydeddu am ei wasanaethau i'r Samariaid a phobl ifanc. 

Ymhlith y rhai sydd wedi eu hanrhydeddu gyda BEM, mae Frances Theresa Fenwick o Fachynlleth am wirfoddoli yn ei hardal leol, yn ogystal â Trystan Wyn Lewis o Gaernarfon am sicrhau lles cleifion mewn ysbytai. 

Mae Richard Gavin Roland Griffiths Parry o Gaerdydd hefyd wedi derbyn BEM am ei gyfraniad i'r byd cerddoriaeth a chorau - ag yntau wedi cyfeilio i gantorion fel Shan Cothi, Gwawr Edwards, Rhys Meirion a Katherine Jenkins. 

A pha enwogion sydd ar y rhestr?

Mae'r actor a'r cyflwynydd Stephen Fry, cyn reolwr tîm pêl-droed Lloegr Gareth Southgate a maer Llundain Sadiq Khan ymhlith y rheiny sydd wedi eu hurddo'n farchogion.

Gyda'i mam a'i theulu yn dod o Landeilo, Sir Gâr, mae'r seren Hollywood Carey Mulligan wedi'i hanrhydeddu â'r CBE. 

Mae'r cyflwynydd Alan Titchmarsh a'r actores Sarah Lancashire sydd yn adnabyddus am ei rôl yn y gyfres Happy Valley hefyd wedi'u hanrhydeddu â'r CBE.

Mae'r gantores a chyflwynydd Myleene Klass a'r actor Tom Baker oedd yn adnabyddus am ei rôl fel Doctor Who wedi'u hanrhydeddu ag MBE.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.