Newyddion S4C

Rhybudd i deithwyr wrth i reolwyr trenau Avanti West Coast streicio

30/12/2024
tren avanti

Mae rhybudd i deithwyr trenau y bydd streiciau gan reolwyr Avanti West Coast yn amharu ar wasanaethau tren ar 31 Rhagfyr a 2 Ionawr. 

Fydd yna ddim gwasanaethau yng ngogledd Cymru ar ddiwrnodau'r streic.  

Mae'r rheolwyr sy'n aelodau o undeb yr RMT yn anfodlon â'u hamodau gwaith.

Mae cwmni Avanti yn cynghori eu cwsmeriaid i deithio ar y diwrnodau agosaf at y streiciau, gan y bydd yr amserlen wedi "ei chyfyngu'n sylweddol" ar ddiwrnodau'r anghydfod. 

Bydd llai o wasanaethau ac mae disgwyl i'r trenau sy'n rhedeg fod yn brysur tu hwnt, medd Avanti.  

Maen nhw wedi cyhoeddi y bydd un trên yn teithio bob awr rhwng gorsaf Euston yn Llundain a Birmingham, Manceinon a Preston, gyda gwasanaeth cyfyngedig i Glasgow.  

Bydd un trên bob awr hefyd rhwng Lerpwl a Crewe. 

Y cyngor ydy i wirio amserlenni cyn dechrau unrhyw daith. 

Dywedodd Kathryn O’Brien, cyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid Avanti West Coast: "Rydym yn siomedig bod yr RMT wedi penderfynu cyhoeddi streiciau ar 31 Rhagfyr a 2 Ionawr. Bydd hyn yn amharu ar deithiau ein cwsmeriaid yn sylweddol, ac rydw i eisiau diolch iddyn nhw am eu hamynedd a'u dealltwriaeth."  

Bydd aelodau'r RMT sy'n rheolwyr trenau gydag Avanti West Coast hefyd yn streicio bob Sul o 12 Ionawr tan 25 Mai 2025.   

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr RMT, Mick Lynch: "Mae ein haelodau wedi gwrthod cynigion diweddaraf Avanti. Mae'r cwmni wedi creu'r anghydfod hwn drwy anwybyddu pryderon rheolwyr." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.