Cyfres newydd yn 'dathlu Cymry ifanc ag anableddau ac anghenion cyfathrebu'
Bydd cyfres deledu newydd i blant ar S4C yn "dathlu a dyrchafu" Cymry ifanc ag anableddau ac anghenion cyfathrebu.
Bwriad Help Llaw yw "diddannu drwy chwerthin a dysgu" gan gynnwys defnyddio Makaton fel adnodd cyfathrebu.
Rhaglen gyfathrebu yw Makaton sy'n defnyddio arwyddion, lleferydd a symbolau.
Bydd tri cymeriad yn serennu yn y gyfres: Harri Mawr (Llyr Evans), yr handiman cyfeillgar; Harri Bach (Leon Fletcher), ei brentis; a Harriet (Non Haf), sy’n trio cadw trefn ar y ddau.
Mae Leon yn ddisgybl yn Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon.
Gyda'i gilydd, mae’r tri yn mynd ar anturiaethau gyda phlant o Gymru i helpu pobol gyda'u gwaith.
Ar hyd y ffordd, bydd Harriet yn helpu'r gynulleidfa i gyfathrebu drwy ddangos sut i greu arwyddion Makaton.
Mae'r gyfres wedi'i chynhyrchu gan gwmni Ceidiog ar gyfer S4C.
'Pwerus'
Dywedodd Nia Ceidiog, Cyfarwyddwr Ceidiog, bod y gyfres yn "agos at fy nghalon".
"Mae'n gyfle i barhau â'n cenhadaeth o hyrwyddo gwelededd, cynhwysiant a dealltwriaeth, gan ddangos i blant bo’ nhw ddim yn cael eu diffinio gan eu hanableddau ond gan eu galluoedd a'u dyheadau," meddai.
"Mae Makaton yn offeryn mor bwerus ar gyfer cyfathrebu, a fy ngobaith yw y bydd ein cyfres yn ysbrydoli plant a theuluoedd a'u cymunedau i adnabod a defnyddio'r adnodd arbennig yma.
"A hynny fel bod mwy o bobol yn dod i ddeall ei gilydd - mewn mwy nag un ffordd!"
Bydd Help Llaw i'w gweld ar S4C dydd Llun 30 Rhagfyr am 07.40, ac yna ar foreau Llun a Gwener am 07.45.