Gyrrwr yn dioddef o 'anafiadau difrifol' yn dilyn gwrthdrawiad yn Nyffryn Clwyd
27/12/2024
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i yrrwr ddioddef "anafiadau difrifol" yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd yn Nyffryn Clwyd.
Dywedodd y llu fod y gwrthdrawiad, yn ymwneud ag un cerbyd Skoda Fabia llwyd, ar ran niwlog a thywyll o’r A525, rhwng Trefnant a Denbigh Green am tua 20:00 ddydd Iau 26 Rhagfyr..
Mae’r gyrrwr yn dioddef o anafiadau difrifol ac wedi ei gludo i’r Royal Stoke Hospital.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a fyddai wedi gweld y gwrthdrawiad, neu rywun a fyddai wedi bod yn yr ardal neu sydd â dashcam.
Mae modd cysylltu gyda nhw drwy ffonio 101 gan ddyfynnu: Q193760, neu drwy eu cyfryngau cymdeithasol.