Newid yn arweinyddiaeth S4C ‘ddim am gael effaith andwyol’ ar waith y sianel

21/07/2021

Newid yn arweinyddiaeth S4C ‘ddim am gael effaith andwyol’ ar waith y sianel

Mae Cadeirydd S4C wedi dweud na fydd newid yn arweinyddiaeth S4C yn “cael effaith andwyol” ar waith y sianel.

Roedd Rhodri Williams yn siarad wrth i S4C gyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2020/21.

Daw ei sylwadau yn dilyn adroddiad yn y Western Mail y bydd Prif Weithredwr y sianel, Owen Evans, yn gadael ei swydd yn fuan.

Nid yw hyn wedi ei gadarnhau gan S4C.

Image
Owen Evans
Owen Evans, Prif Weithredwr S4C (Llun: S4C)

Dywedodd Mr Williams: “Owen Evans yw’r prif weithredwr ar hyn o bryd, ac yn mynd i fod am y dyfodol rhagweladwy.

“Wrth gwrs, mae pobl, cadeiryddion, aelodau o’r bwrdd, aelodau o’r staff yn newid dros amser, fel sy’n digwydd ym mhob sefydliad.

“Dwi’n credu y sialens pan mae newidiadau o’r fath yn digwydd, yw sicrhau nad yw hynny yn ansefydlogi naill ai’r sefydliad ei hunain, ei bartneriaid yn y gymuned greadigol, na dim arall.

“A dwi’n hyderus bod gynno ni dîm yn S4C sydd yn gadarn yn eu dealltwriaeth o’r hyn maen nhw’n ei wneud.

 “Dwi’n credu fod ganddon ni’r gefnogaeth angenrheidiol yna i’r staff i sicrhau nad oes unrhyw newid yn y tîm arweinyddol yn cael effaith andwyol arnon ni.”

Ychwanegodd ei fod yn “hyderus” y bydd y gwasanaeth yn “parhau i lwyddo, be bynnag yw’r newidiadau”.

Ddydd Mercher cafodd adroddiad blynyddol y sianel ei gyhoeddi.

Yn ei gyflwyniad, mae’r Cadeirydd yn nodi fod y sector wedi addasu yn “hyblyg a chwim” i’r pandemig, gyda nifer o gynyrchiadau yn cael eu gohirio neu newid o ganlyniad.

Roedd cynnydd o 6% mewn cyfartaledd gwylio oriau brig, yn ogystal â chynnydd o 5% mewn cyrhaeddiad wythnosol.

'Dipyn o waith i'w wneud'

Er bod cynnydd o 45% yn oriau gwylio S4C Clic, dywedodd Mr Williams fod “dipyn o waith i’w wneud” wrth sicrhau nad ydy’r sianel yn disgyn ar ôl gwasanaethau eraill yn ddigidol.

“Dechrau ar y daith i ni, dim diwedd,” meddai.

“Mae unrhyw gyfundrefn fel un ni, yn enwedig un sy’n dibynnu ar arian cyhoeddus, mae’n rhaid blaenoriaethu – mae’n rhaid gwneud dewisiadau anodd.

“Bydd yn rhaid blaenoriaethu, bydd yn rhaid penderfynu pa elfennau o’r amrywiaeth eang o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan S4C sy’n rhaid cael blaenoriaeth, a pa rai ydyn ni’n gallu byw hebddyn nhw.”

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y broses o benderfynu ar setliad ariannol S4C ar gyfer 2022-27 ar hyn o bryd.

Llun: S4C

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.