Cyhuddo dynes o lofruddiaeth ar ôl marwolaeth bachgen pump oed
Mae dynes wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth ar ôl marwolaeth bachgen pump oed yn Essex.
Cafodd plismyn a pharafeddygon eu galw i gyfeiriad yn Windstar Drive, De Ockendon, ar 15 Rhagfyr.
Bu farw bachgen a chafodd dynes ei chludo i'r ysbyty am driniaeth.
Mae ei chyflwr wedi gwella, meddai’r llu, ac mae hi wedi cael ei throsglwyddo i’r ddalfa a'i holi am farwolaeth y bachgen.
Mae Claire Button, 35, o Windstar Drive, De Ockendon, bellach wedi’i chyhuddo o lofruddiaeth, meddai Heddlu Essex.
Mae disgwyl iddi ymddangos yn Llys Ynadon Southend ddydd Llun.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Alan Blakesley, sy’n arwain yr ymchwiliad: “Mae hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad hynod gymhleth i farwolaeth plentyn ifanc.
“Mae fy meddyliau a meddyliau’r holl dîm sy’n ymchwilio i’r achos gyda theulu Lincoln Button wrth i ni barhau i’w cefnogi trwy’r amser ofnadwy hwn.
“Mae wedi cymryd llawer iawn o waith ac ymroddiad gan y tîm ymchwilio i gyrraedd y cam hwn yn ein hymchwiliad a byddwn yn parhau i alw ar y cyhoedd i ymatal rhag dyfalu am amgylchiadau’r achos hwn.
“Bydd unrhyw achos mor ddirdynnol â hyn yn amlwg yn denu sylw.
“Ond wrth i ni gymryd y cam o gyhuddo, mae’r amser wedi dod i barchu’r broses farnwrol a pharhau i ganiatáu preifatrwydd teulu Lincoln a’r lle iddyn nhw alaru.”
Mae teulu Lincoln wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud: “Roedd Link yn enaid ifanc annwyl, hoffus, mwyn a hardd a oedd yn cael ei edmygu gan bawb ac a fydd yn cael ei golli’n fawr bob dydd.”