Rhybudd ffliw wrth i ysbytai Cymru weld cynnydd mawr mewn achosion
Mae rhybudd i bobol gymryd gofal wrth i ffigurau diweddaraf GIG Cymru ddatgelu cynnydd “pryderus” mewn pobl yn mynd i’r ysbyty oherwydd y ffliw.
Fe aeth 195 o bobl i’r ysbyty oherwydd y ffliw yn yr wythnos oedd yn gorffen ar 15 Rhagfyr.
Roedd hynny’n gynnydd o 44% o’i gymharu â’r wythnos flaenorol, a welodd 135 o dderbyniadau.
Mae derbyniadau 3.5 gwaith yn uwch na’r un wythnos y llynedd (yr wythnos a orffennodd ar 18 Rhagfyr 2023).
Bryd hynny dim ond 56 aeth i’r ysbyty oherwydd y ffliw, yn ôl ffigurau diweddaraf GIG Cymru.
Dywedodd GIG Cymru eu bod wedi'u “llethu” gan y cynnydd sydd wedi rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaeth sydd eisoes dan bwysau.
Wrth i achosion ffliw barhau i godi, mae arbenigwyr iechyd yn annog grwpiau bregus, yn enwedig y rhai â chyflyrau ar yr ysgyfaint, i gymryd gofal ychwanegol.
Mae Asthma + Lung UK, elusen ysgyfaint flaenllaw, wedi cyhoeddi "cyngor iechyd hanfodol", gan bwysleisio pwysigrwydd brechiadau ffliw.
Dywedodd Joseph Carter, Pennaeth Asthma + Lung UK Cymru: "Mae'n wirioneddol bryderus bod derbyniadau ffliw yn cynyddu o wythnos i wythnos yng Nghymru.
“Mae'n hollbwysig bod pobl â chyflyrau'r ysgyfaint yn amddiffyn eu hunain drwy gael eu brechlyn ffliw am ddim os ydyn nhw’n gymwys.”
Ychwanegodd y gallai'r rhai ag asthma wynebu cymhlethdodau sy'n bygwth bywyd a mynd i'r ysbyty pe baent yn dal y ffliw.
Dywedodd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes bod y ffliw ochr yn ochr â lefelau uwch o Covid, RSV a Norofeirws yn ystod misoedd y gaeaf, yn rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau.