'Amhosib i fyw bywyd llawn fel myfyriwr heb swydd neu arian wrth gefn'
Mae ymchwil newydd gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn dangos bod 32% o fyfyrwyr yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd talu rhent.
Yn ôl yr Undeb, dydi'r gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr yng Nghymru ddim yn ddigonol ac mae sawl un yn gorfod addasu er mwyn ymdopi.
Mae 58% o fyfyrwyr Cymru yn mynd heb brydau bwyd, gydag un o bob 10 o’r rheini yn dibynnu ar fanciau bwyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cydnabod y pwysau ychwanegol yn sgil costau byw ac wedi cynyddu eu cymorth.
I nifer o fyfyrwyr, mae gwneud ffrindiau a chymdeithasu yn rhan bwysig o fywyd prifysgol. Ond gyda chostau cynyddol, mae'n rhaid iddynt ddewis yn ofalus sut i wario'u harian.
Mae Fflur James a Gwenno Davies yn astudio yn eu hail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn teimlo bod y sefyllfa wedi gwaethygu ers y llynedd.
"Mae 'leni yn waeth na'r arfer felly dwi ddim yn synnu fod cymaint o fyfyrwyr yn gorfod dal nôl o wneud pethau arferol," meddai Fflur.
"Fe gafon ni neges gan gwmnïau biliau nwy a thrydan fis diwethaf yn dweud bod biliau yn mynd lan a hefyd gan y landlord yn dweud y bydd rhent blwyddyn nesa yn mynd lan eto.
"Wrth gwrs mae'n rhaid talu biliau felly mae pobl yn blaenoriaethu hynny ond yn colli mas wedyn ar bethau eitha' arferol fel myfyrwyr."
Ar ôl holi dros 700 o fyfyrwyr ar draws Cymru, mae ymchwil newydd gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn dangos bod un o bob tri yn ei chael hi'n anodd talu rhent – y mwyafrif o rheini yn cael trafferth talu biliau hefyd, gyda 90% yn troi at eu rhieni neu gardiau credyd am gymorth.
Wrth i gostau rhent gynyddu felly, mae nifer yn gwneud dewis wrth wario ar bethau sylfaenol.
'Swydd rhan amser o hyd'
Mae 58% o fyfyrwyr Cymru yn mynd heb brydau bwyd, gydag un o bob 10 o’r rheini yn dibynnu ar fanciau bwyd.
Dydi'r ffigyrau hyn ddim yn syndod i Gwenno a Fflur a gyda ffioedd prifysgolion yn codi'r flwyddyn nesaf a dim arwydd o gostau'n dod lawr, does dim dewis ond addasu.
"Mae'n fwy o straen meddwl gorfod meddwl ydw i'n defnyddio mwy o ddŵr twym na rhywun arall neu ydw i'n bod yn hunanol gyda faint o drydan fi'n defnyddio," meddai Gwenno.
"Ma 'da fi swydd rhan amser ar hyn o bryd. Os bydde ddim swydd 'da fi sai'n credu bydde digon o arian 'da fi i joio a phrynu anrhegion Nadolig a gwneud pethau fi moyn neud adeg hyn o'r flwyddyn," meddai.
"Mae'n amhosib i fyw bywyd fel myfyriwr llawn heb swydd neu arian wrth gefn oherwydd dydi arian rydym ni'n derbyn ddim yn cyd-fynd gyda'r holl gostau sydd gan fyfyrwyr," meddai Fflur.
"Bendant o ran pethau cymdeithasol mae'n rhaid bod yn fwy synhwyrol, meddwl oes rhaid mynd i hwn a'r llall. Blaenoriaethu ydi'r peth pennaf," ychwanegodd.
Gyda disgwyl i ffioedd prifysgolion godi i £9535 o'r flwyddyn nesaf ymlaen, mi fydd hefyd cynnydd o 1.6% i gymorth cynhaliaeth myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser a llawn amser cymwys o Gymru.
Ond yn ôl Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Deio Owen, dydi hyn ddim yn mynd ddigon pell.
"Ma gan nifer o fyfyrwyr llai na £100 yn eu banc erbyn diwedd y mis. Pan ti'n meddwl am drio astudio, byw a chael bywyd cymdeithasol sylfaenol, dydi'r arian ddim yna. Mae angen mynd ymhellach yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni ar hyn o bryd."
"Dydi'r cynnydd o 1.6% mewn arian cynhaliaeth ddim yn mynd yn bell iawn pan da chi'n sbïo ar y mynydd o gostau sy'n wynebu myfyrwyr. Fyswn ni’n hoffi gweld y cynnydd yn mynd yn agosach at y cyflog byw cenedlaethol a dwi'n meddwl bod hynny yn darged teg i gynyddu'r arian cynhaliaeth mewn gradd hefo hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran ein system cyllid myfyrwyr unigryw a blaengar, a’r lefelau uchaf o gymorth grant nad oes angen ei ad-dalu ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf.
“Rydyn ni’n cydnabod y pwysau ychwanegol yn sgil costau byw, ac wedi cynyddu ein cymorth cynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig bob blwyddyn ers 2018.
“Mae gan bob prifysgol yng Nghymru gronfeydd caledi, ac maent yn cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer costau byw, gan gynnwys grantiau argyfwng, bwyd am ddim neu rad, nwyddau mislif am ddim, a mynediad am ddim at gyfleusterau chwaraeon a gweithgareddau.”