Sgandal Swyddfa'r Post 'ddim drosodd' hyd nes i bob is-bostfeistr dderbyn iawndal'
![ITV Cymru](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/2021-03/ITV_Cyrmu-Wales.png)
Sgandal Swyddfa'r Post 'ddim drosodd' hyd nes i bob is-bostfeistr dderbyn iawndal'
Mae’r cyn is-bostfeistr o Ynys Môn, Noel Thomas, a gafodd ei garcharu ar gam yn ystod sgandal Swyddfa’r Post, yn dweud na fydd y cyfan drosodd hyd nes i bob is-bostfeistr gafodd ei gyhuddo ar gam dderbyn iawndal.
Wrth siarad ag ITV Cymru, dywedodd Mr. Thomas: “Bydda i fwy hapus… pan fydd pawb wedi cael be maen nhw fod i’w gael… rydan ni gyd mewn gwahanol sefyllfa."
Ddiwedd Tachwedd 2024, roedd £499 miliwn wedi'i dalu i dros 3,300 o is-bostfeistri.
Ond mae cannoedd o gyn-is-bostfeistri yn dal i aros am iawndal – er i’r llywodraeth flaenorol gyhoeddi y byddai rhai sydd wedi cael euogfarnau wedi'u dileu yn gymwys i gael taliadau o £600,000.
Cafodd Mr Thomas ei gyhuddo ar gam yn 2006 o ddwyn £48,000 oddi ar Swyddfa’r Post oherwydd gwybodaeth ddiffygiol ar system gyfrifiadurol cwmni Horizon.
Collodd Mr Thomas ei waith fel cynghorydd, a threuliodd naw mis dan glo. Bu'n rhaid i'w ferch werthu ei chartref i dalu am gostau cyfreithiol.
18 mlynedd yn ddiweddarach, mae wedi derbyn iawndal - doedd Mr Thomas ddim am ddweud faint mae wedi’i dderbyn.
Ond mae’n dal i boeni am is-bostfeistri eraill: “Dwi’n dal i siarad efo ffrindiau fi yn Lloegr, a yr Alban, a Gogledd Iwerddon. A mae nhw wedi mynd trwy uffern, i fod yn onest.
“A wedyn, be fedrwch chi neud? Dydy pres ddim yn mynd i ddod a hwnna nôl, nac ydy?” meddai Noel.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Post: "Mae Swyddfa'r Post yn cydnabod hyd nes y bydd pob postfeistr yn derbyn iawndal llawn a theg, does dim gobaith y byddan nhw yn gallu symud ymlaen wedi’r digwyddiadau ofnadwy hyn.
"Bydd Swyddfa'r Post yn myfyrio'n ofalus ar y canfyddiadau yn adroddiad yr ymchwiliad sydd i ddod, a bydd yn cymryd argymhellion yr ymchwiliad o ddifrif.
"Mae Swyddfa'r Post yn ailadrodd ei hymddiheuriad diffuant i bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan ei gweithredoedd. Ac yn ailadrodd ei phenderfyniad i barhau â'r broses o ddysgu'r gwersi o'r ymchwiliad hwn."