Rhybudd melyn am wynt i rannau o Gymru
17/12/2024
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt i rannau o Gymru ddydd Mawrth.
Fe fydd y rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym o 15:00 tan 08:00 fore dydd Mercher.
Mae posibilrwydd y gallai gwyntoedd cryfion achosi oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi rhybuddio fod perygl i ffyrdd a chymunedau arfordirol gael eu heffeithio gan donnau mawr.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer y siroedd canlynol:
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Sir Benfro
- Powys
- Wrecsam