Newyddion S4C

Crymych: Carchar wedi'i ohirio i fenyw 80 oed am achosi 'dioddefaint diangen' i anifeiliaid

17/12/2024
rspca achos crymych

Mae menyw 80 oed wedi ymddangos yn y llys wedi i anifeiliaid gael eu darganfod mewn cyflwr gwael ar fferm yn Sir Benfro. 

Fe blediodd Elizabeth Palmer o Grymych yn euog i ddau gyhuddiad o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid yn Llys Ynadon Hwlffordd. 

Fe blediodd yn euog i achosi dioddefaint diangen i 11 asyn a merlen drwy fethu â darparu gofal milfeddygol digonol ac addas, a'i bod wedi methu â chymryd camau priodol i sicrhau bod eu hanghenion yn ddigonol.

Dywedodd yr RSPCA fod 11 asyn ac un ferlen wedi cael eu darganfod mewn amgylchedd gwael gyda "phryderon am gyflwr eu cyrff" wedi'r arolygiad yn yr eiddo. 

Cafodd ei dedfrydu i 16 wythnos o garchar wedi ei ohirio am 12 mis a gwaharddiad 10 mlynedd ar gadw unrhyw anifail, gan eithrio cathod a chŵn. 

Cafodd hefyd ei gorchymyn i dalu £400 mewn costau a gordal dioddefwr o £154. Cafodd gorchymyn gan y llys ei wneud i'r RSPCA ddychwelyd i'r eiddo mewn 21 diwrnod i symud unrhyw anifail arall oedd yn parhau ar y safle.

Llun: RSPCA Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.