Newyddion S4C

Dynes yn gwadu bod yn berchen ar gi XL Bully allan o reolaeth a laddodd dyn

Keven Jones

Mae dynes 31 oed wedi gwadu bod yn berchen ar gi XL Bully Americanaidd oedd allan o reolaeth yn beryglus pan frathodd a lladd dyn.

Roedd Chanel Fong, o Ffordd Holt, Wrecsam, yn ddagreuol pan wnaeth hi ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore dydd Llun. 

Bydd ei hachos llys yn cael ei gynnal fis Hydref nesaf.

Mae hi wedi’i chyhuddo ar 23 Mai 2022, o fod yn berchen ar Cookie, ci peryglus allan o reolaeth a anafodd Keven Jones.

Bu farw Mr Jones o ganlyniad i'r ymosodiad.

Fe wnaeth y Barnwr Rhys Rowlands osod Fong ar fechnïaeth tan yr achos llys sydd i fod i ddechrau ar 20 Hydref. 

Gwnaeth y barnwr nifer o gyfarwyddiadau i'r erlyniad. 

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad Mark Connor y byddai'n gofyn am esboniad am yr amser a gymerodd i ddod â'r achos i'r llys.

Mewn gwrandawiad llys blaenorol o flaen ynadon, dywedodd yr erlynydd Shane Maddocks fod yr heddlu wedi cael gwybod am yr ymosodiad gan y Gwasanaeth Ambiwlans.  

Clywodd cwest fod ymdrechion i atal gwaedu yng nghoes Mr Jones, 65 oed, wedi methu. 

Yr oedd yn dod o Saltney, ger Caer. 

Prif Lun: Llun teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.