Wrecsam: Dau berson wedi dioddef anafiadau llosgi wedi ffrwydrad ar gwch
Fe wnaeth dau berson dioddef anafiadau llosgi ac effeithiau anadlu mwg yn dilyn ffrwydrad ar gwch yn ardal Wrecsam nos Sadwrn.
Cafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty yn dilyn tân ar gwch ym marina’r Waun. Y gred yw mai ffrwydrad nwy oedd yn gyfrifol am achosi’r tân.
Bu farw ci oedd ar fwrdd y cwch pleser adeg y ffrwydrad.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd eu galw i’r gamlas am tua 18.10 er mwyn mynd i’r afael â’r tân.
Roedd dau griw o Wrecsam a'r uned achub dŵr o Lannau Dyfrdwy yn bresennol, medden nhw.
Mewn datganiad ychwanegodd Gwasanaeth Tân y Gogledd bod 80% o ddifrod wedi’i achosi i’r cwch.
Roedd y tân hefyd wedi lledaenu gan achosi 20% o ddifrod pellach i gwch camlas gyfagos.
Fe ddioddefodd y ddau berson gydag effeithiau anadlu mwg a llosgiadau arwynebol.
Lluniau: Gwasanaeth Tân y Gogledd