Newyddion S4C

Bron i fil o bobl wedi marw yn dilyn seiclon ym Môr India

16/12/2024
Mayotte

Mae bron i fil o bobl wedi marw ar ôl i seiclon daro ynys Mayotte ym Môr India dros y penwythnos.

Mae’r ynys, i’r gogledd orllewin o Madagascar, yn diriogaeth i Ffrainc ac mae ofnau y gall y nifer o bobl sydd wedi marw cynyddu’n sylweddol ar ôl i’r seiclon daro gyda gwyntoedd o fwy na 140mya.

Mae Mayotte wedi'i gwasgaru dros ddwy brif ynys tua 500 milltir (805km) oddi ar arfordir dwyreiniol Affrica

Mae pentrefi cyfan wedi eu dinistrio gan Seiclon Chido gyda phobl mewn cartrefi bregus dros dro wedi eu heffeithio fwyaf. Mayotte yw rhanbarth tlotaf Ffrainc gyda phoblogaeth o 320,000 ac mae prinder dŵr, bwyd a lloches yn dilyn y seiclon.

Mae gweithwyr achub yn chwilio am oroeswyr ac mae Ffrainc wedi danfon offer a nwyddau i roi cymorth.

Mae difrod eang i seilwaith - gyda llinellau pŵer wedi'u gostwng a ffyrdd na ellir eu croesi - yn rhwystro gweithrediadau brys yn ddifrifol.

Dywedodd prif swyddog Mayotte Francois-Xavier Bieuville: “Rwy’n meddwl bod rhai cannoedd wedi marw, efallai y byddwn yn dod yn agos at fil, hyd yn oed filoedd ... o ystyried difrod y digwyddiad hwn.”

Cafodd ynysoedd cyfagos Comoros a Madagascar hefyd eu heffeithio, ac mae’r seiclon bellach wedi taro Mozambique.

Dywedodd asiantaeth tywdd Meteo-France mai Chido oedd y storm gryfaf i daro’r ynysoedd ers mwy na 90 mlynedd.

Rhwygodd gwyntoedd o fwy na 124mya (200kmh) doeau oddi ar dai gan ddinistrio nifer o adeiladau.

Mae Mayotte yn adran dramor dlawd yn Ffrainc ac wedi'i gwasgaru dros ddwy brif ynys tua 500 milltir (805km) oddi ar arfordir dwyreiniol Affrica.

Dywedodd yr Arlywydd Emmanuel Macron: “Mae fy meddyliau gyda’n cydwladwyr yn Mayotte, sydd wedi mynd trwy’r ychydig oriau mwyaf erchyll, ac sydd, i rai, wedi colli popeth, wedi colli eu bywydau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.