Dyn wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei drywanu
Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty gyda chlwyfau trywanu yn ne Cymru yn oriau mân y bore ddydd Sul.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i eiddo ar Blas Ramsey yn Y Barri toc wedi hanner nos.
Cafodd dyn lleol 33 oed ei gludo i'r ysbyty gyda nifer o glwyfau trywanu.
Nid yw'r anafiadau yn rhai sydd yn peryglu ei fywyd, meddai'r llu.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ac maen nhw'n galw am unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2400413499.