Bocsio: Lauren Price yn cwffio i amddiffyn ei theitl pencampwr y byd
Bocsio: Lauren Price yn cwffio i amddiffyn ei theitl pencampwr y byd
Fe fydd Lauren Price yn ceisio amddiffyn ei theitl pencampwr y byd bocsio nos Sadwrn wrth iddi herio Bexcy Mateus.
Enillodd Price, sydd o Ystrad Mynach yng Nghaerffili, y teitl pencampwr byd y pwysau welter ym mis Mai eleni yng Nghaerdydd.
Hi oedd y Gymraes gyntaf i ennill teitl o'r fath ac mae hi'n awyddus i barhau gyda'i record o beidio colli.
Ond ni fydd hynny'n dasg hawdd yn erbyn Bexcy Mateus, o Golombia, sydd heb golli chwaith.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Heno, dywedodd Lauren Price ei bod hi'n edrych ymlaen at yr ornest.
“Mae hi’n dod o Golombia, mae’n gryf, mae’n galed ond dydw i ddim yn meddwl am hynny gormod," meddai.
“Ond dwi’n ffocysu ar beth dwi’n ei wneud, beth dwi’n dda yn gwneud.
“O’n i’n meddwl ‘ennill teitlau’r byd a bydd y gwrthwynebwyr nesaf yn dod yn hawdd. Ond dwi’n bencampwr byd nawr a does neb eisiau cwffio yn erbyn fi.
“Fi’n edrych ymlaen at fynd allan a pherfformio’n dda. Mae gen i wrthwynebydd da sydd wedi ennill ar saith achlysur, chwech ohonyn nhw yn knockouts.
“Fydd hi ddim yn hawdd ond dwi’n meddwl fy mod i’n gallu ennill."
Enillodd Price fedal aur yn y Gemau Olympaidd 2020 ac ym mis Mai dywedodd fod dod yn bencampwraig y byd yn debyg i hynny.
Mae hi eisiau mynd ymlaen i fod yn un o oreuon y gamp, a chwffio yn amlach yng Nghaerdydd.
“Dwi yn y gamp hon achos dwi’n bencampwr byd, na'i gwffio yn erbyn unrhyw un a dwi eisiau creu gwaddol a dod yn ôl i Gaerdydd a chwffio yna eto.”