
Addo tân gwyllt dros y Nadolig ar raglen arbennig Gogglebocs
Mae'r ffermwr enwog Gareth Wyn Jones a'r arwr rygbi Scott Quinnell yn sgwario am frwydr deledu dros y Nadolig.
Bydd y ddau gymeriad di-flewyn-ar-dafod yn bwrw eu llygaid beirniadol dros amrywiaeth o raglenni teledu mewn rhifyn arbennig o Gogglebocs Cymru ar S4C - ac maen nhw'n addo tipyn o dân gwyllt Nadoligaidd.
Mae lein-yp Gogglebocs 'Dolig yn cynnwys wynebau enwog o fyd adloniant, cerddoriaeth, coginio a chwaraeon ar gyfer rhaglen Nadoligaidd a fydd yn cael ei dangos am 9pm nos Wener, 27 Rhagfyr.
Fel erioed, bydd y sioe, sy'n cael ei gwneud gan ddau gwmni cynhyrchu teledu o Wynedd, Cwmni Da, o Gaernarfon, a Chwarel, o Gricieth, ac yn cael ei chyflwyno gan y digrifwr Tudur Owen.
Bydd Scott, a oedd yn arfer chwarae rygbi fel Wythwr i Lanelli, Cymru a'r Llewod yn rhannu'r soffa ar fferm deuluol Gareth ger Llanfairfechan ar odre’r Carneddau.
Yn ôl Scott, sydd bellach yn rhedeg ei fusnes ei hun yn gwerthu canhwyllau cartref, mae'n sicr o gael croeso cynnes ar aelwyd teulu’r Jones cyn i'r ddau ohonyn nhw fynd i "ychydig o stem wrth wylio’r rhaglenni".
"Rwy wastad yn cael fy nghroesawu yn lle Gareth gyda phaned a mins pei," meddai.
"Rwy'n cael fy nhrin fel brenin ac mae'n hwyl fawr jyst eistedd a chlebran gyda Gareth. Dw i ddim bob amser yn cytuno gyda beth mae e'n ei ddweud ond ry’n ni bob amser yn cael hwyl.
"Rwy'n aml yn aros mewn gwestai felly rwy'n gwylio lot o deledu yna. Ac os ydw i gartref mi fydda i ar y soffa yn palu drwy bocs sets fel Yellowstone, Killing Eve, Game of Thrones a Breaking Bad."
Ma Gareth yn wyneb rheolaidd ar y teledu ac mae ganddo dair miliwn o danysgrifwyr ar ei sianel YouTube, ac mae’n addo "deud ei ddeud" pan fydd yn trafod rhinweddau'r gwahanol rhaglenni teledu gyda Scott.
Dywedodd Gareth: "Mae gwaith fferm yn golygu nad oes gen i lawer iawn o amser i wylio'r teledu. Yn y gwanwyn a'r haf rydw i allan tan yn hwyr yn gofalu am yr anifeiliaid ac yn y gaeaf mae pentwr o waith papur i’w wneud.
Pan mae'n cael amser mae Gareth yn mwynhau rhaglenni teledu clasurol fel y gyfres gomedi C'Mon Midffild neu ffilm dda.
"Unrhyw beth efo stori neu raglenni da am fywyd ac anifeiliaid cefn gwlad ond dwi'n edrych ymlaen at Gogglebocs 'Dolig.
"Dydw i ddim wedi gweld Scott ers tro a bydd yn wych i ddal i fyny efo fo. Mi wnes i ddod yn daid am y tro cyntaf yn gynharach eleni ac mae gan Scott wyres hefyd felly byddwn yn gallu cymharu nodiadau.
"Bydd Scott a finnau yn chwerthin yn hwyliog ac mi fydd yna dipyn o dynnu coes wrth wylio'r rhaglenni ac efallai na fyddwn ni'n cytuno ar bopeth. Mae gan Scott farn bendant ar rai pethau ac un felly ydw innau hefyd ac rwy'n siŵr y bydd yna adegau pan fydd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno.
"Mae'r ddau ohonon ni'n eitha di-flewyn-ar-dafod felly dwi'n siŵr bydd 'na ychydig o dân gwyllt geiriol ar adegau - ond bydd y cyfan mewn ysbryd hwyliog."

‘Cysgu’
Hefyd yn serennu yn rhaglen arbennig y Nadolig bydd seren Twin Town, Llŷr Ifans, sy'n hanu o Ruthun, a'i wraig, y cyflwynydd Lisa Gwilym, sy'n wreiddiol o Henllan, ger Dinbych.
Mae'r cwpl, sydd bellach yn byw yn Y Felinheli, ger Bangor, yn edrych ymlaen at fwynhau ychydig o lonydd ar y soffa pan fyddan nhw'n ffilmio'r sioe.
Dywedodd cyflwynydd poblogaidd S4C a Radio Cymru, Lisa: "Dydyn ni ddim yn cael gormod o amser i eistedd a gwylio'r dyddiau yma ers i'n mab Jacob ddod i'n bywydau, felly bydd yn newid braf.
"Rydyn ni'n gobeithio gwylio ffilm dda dros gyfnod y Nadolig, er fy mod i'n tueddu i grio yn ystod ffilmiau ac mae Jacob yn dweud bod ei dad yn aml yn syrthio i gysgu yn ystod ffilm."
Gwadodd Llŷr ei fod yn cysgu, gan honni mai dim ond gorffwys ei lygaid ydoedd.
"Dw i'n hoffi pob math o deledu o raglenni dogfen da i chwaraeon ac wrth gwrs dramâu. Rwy'n mwynhau gwylio pêl-droed a byddaf yn gwylio gemau efo Jacob.
"O ran y Nadolig, dw i'n cofio pan o'n i'n fach y bydden ni'n prynu'r Radio Times a'r TV Times ac yn pori dros y rhestrau i weithio allan be' i wylio dros y Nadolig. Erbyn heddiw, gyda chymaint o sianeli, mae fel ‘Dolig bob dydd."
Ychwanegodd Lisa nad oes ganddi syniad beth sy'n cael ei ddangos ar S4C a'r sianeli eraill dros y Nadolig, felly bydd yn syrpreis gweld beth fydd gofyn i ni ei wylio a gwneud sylwadau arno.
"Dw i'n siŵr y bydd gennym ni rywbeth i'w ddweud am yr holl raglenni. Mae Llŷr yn arbennig o barod i gynnig sylw neu ddau," meddai.

‘Hwyl’
Bydd y newydd-ddyfodiad Mirain Iwerydd, 21 oed, yn ymuno â'r comedïwr Melanie Owen i roi eu barn onest.
Mae Mirain, sy'n hanu o Grymych, Sir Benfro, yn gyflwynydd radio a theledu amryddawn gyda sioeau wythnosol ar BBC Radio Cymru ac yn ymddangos yn rheolaidd ar raglen gylchgrawn S4C Heno.
Dywedodd ei bod wedi cyffroi gan y cyfle i ymddangos ar Gogglebocs 'Dolig.
"Dyma fydd fy sioe enwog gyntaf ac alla i ddim aros. Bydd yn llawer o hwyl," meddai.
"Fydd Gogglebocs 'Dolig ddim yn wahanol i be' ni'n 'neud fel arfer pan ry’n ni'n ymlacio o flaen y teledu.
“Ry’n ni'n gwylio ac yn pasio sylwadau ar beth sydd ymlaen ac rwy'n siŵr y bydd digon o biffian."
Nid yw Mirain ac aelodau eraill y cast yn gwybod pa raglenni fydd y cynhyrchwyr yn eu dewis iddyn nhw leisio eu barn arnynt.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y Nadolig ar y teledu eleni. Mae rhaglenni gwych yn mynd i gael eu dangos.
“Mae pennod newydd o Outnumbered, ffilm Wallace a Gromit newydd ac wrth gwrs diweddglo Gavin & Stacey.
"Fel pawb arall, rydw i eisiau gwybod sut mae pethau'n mynd o chwith. Mae yna rai cymeriadau gwych a gobeithio y bydd yn ddiweddglo hapus."
‘Croesawu’
Dywedodd Cynhyrchydd y gyfres, Euros Wyn, fod y lein-yp Nadolig yn cynnwys sawl aelod o raglen arbennig Nadoligaidd y llynedd.
"Fe wnaeth y Rappers Lloyd Lew a Dom James hefyd ymddangos y Nadolig diwethaf a bydd eu ffrind a'u cyd-rapiwr Sage Todz yn ymuno y tro hwn a bydd y cyn-bêl-droedwyr Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones hefyd ar y sioe unwaith eto," meddai.
Dywedodd Euros bod y sioe yn cael ei darlledu tra bod cyfres reolaidd Gogglebocs Cymru yn cymryd egwyl ganol tymor.
"Dechreuodd trydedd gyfres Gogglebocs Cymru ym mis Hydref ac roedd pum rhaglen cyn i ni gymryd seibiant. Mae rhaglen arbennig yn cael ei darlledu dros y Nadolig ac yna bydd y gyfres arferol yn ailgychwyn eto ym mis Mawrth," meddai.
Roedd dechrau'r gyfres bresennol yn cyd-fynd â dathliadau 50 mlwyddiant yr opera sebon Pobol y Cwm, a phenderfynwyd gwahodd sawl seren o'r sioe ar gyfer rhaglen arbennig Gogglebocs Cymru.
"Gweithiodd hynny'n dda iawn," meddai Euros, "ac rydym wedi gofyn i lond llaw ddychwelyd ar gyfer y Nadolig arbennig.
"Maen nhw'n cynnwys Nia Caron a Lisa Victoria, yn ogystal â Lily Beau a Dyfan Rees.
"Ar ben hynny, byddwn yn cael ein croesawu i gartref y gyflwynwraig a'r gantores Elin Fflur, a fydd yn ymuno â'i ffrind, yr actores Mari Wyn Roberts, sy'n chwarae'r heddwas Siân Richards ar gyfres ddrama boblogaidd Rownd a Rownd.
"O fyd coginio rydym wedi gwahodd Colleen Ramsey a'i chwaer Roisin unwaith eto i leisio eu barn, ac yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf fydd y cyflwynwyr teledu a’r cantorion, sydd hefyd yn bartneriaid Lisa Angharad a Rhys Gwynfor," meddai.
Bydd rhaglen Gogglebocs Dolig yn cael ei darlledu ar S4C nos Wener 27 Rhagfyr am 21.00.