Dirwy o £10.5 miliwn i'r Post Brenhinol am fethu targedau dosbarthu
Mae'r Post Brenhinol wedi cael dirwy o £10.5 miliwn gan y rheoleiddiwr Ofcom am fethu targedau dosbarthu post yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Dyma'r ail ddirwy mewn dwy flynedd, wedi i Ofcom roi dirwy o £5.6 miliwn i'r cwmni ym mis Tachwedd 2023.
Dywedodd y Post Brenhinol mai ychydig llai na thri chwarter o bost dosbarth cyntaf gafodd ei ddosbarthu ar amser yn ystod y cyfnod, sydd yn llawer is na'r targed o 93%.
Fe gafodd 92.7% o bost ail ddosbarth ei ddosbarthu ar amser, yn is na'r targed o 98.5%.
Dywedodd cyfarwyddwr gorfodi Ofcom, Ian Strawhorne: "Gyda miliynau o lythyrau yn cyrraedd yn hwyr, mae llawer gormod o bobl yn methu derbyn yr hyn y maen nhw'n talu amdano wrth brynu stamp.
"Mae gwasanaeth gwael y Post Brenhinol bellach yn effeithio ar ffydd y cyhoedd yn un o sefydliadau hynaf y DU.
"Dyma'r ail waith yr ydym ni wedi rhoi dirwy i'r cwmni ers y pandemig."