Marwolaethau yn sgil damweiniau fferm wedi dwblu mewn blwyddyn

Mae Undeb Amaethwyr Cymru, ynghyd â sefydliadau amaethyddol eraill, yn galw ar ffermwyr Cymru i gadw’n ddiogel ar y fferm yn ystod tymereddau poeth yr haf yma.
Daw’r rhybudd yn dilyn ffigyrau diweddar gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (yr HSE) a ddangosodd taw record diogelwch ffermio yw’r gwaethaf o unrhyw alwedigaeth yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, meddai Golwg 360.
Yn ôl y ffigyrau cafodd 41 o bobl eu lladd ar ffermydd Prydeinig yn 2020/2021 sydd yn bron i ddwbl niferoedd y llynedd.
Darllenwch y stori’n llawn yma.