Rhybuddio'r cyhoedd am 'fasnachwyr twyllodrus' ar ôl Storm Darragh
Mae'r rheini sydd wedi eu heffeithio gan Storm Darragh wedi cael rhybudd i gadw llygad am "fasnachwyr twyllodrus" sy'n defnyddio'r difrod i gymryd mantais o bobl.
Daw'r rhybudd gan Wasanaeth Safonau Masnach Diogelu’r Cyhoedd yng Ngheredigion wedi i'r storm rhybudd coch achosi difrod i filoedd o dai ar draws Cymru a gadael 100,000 o dai heb bŵer.
Maen nhw'n annog trigolion i gymryd gofal os ydy masnachwyr yn dod i'w tai i gynnig gwaith ar eu tai yn sgil y storm.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion, sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd y dylai pobl bod yn "amheus bob amser" pan fydd rhywun yn cynnig gwaith.
“Mae masnachwyr twyllodrus yn cymryd mantais a byddant yn gweld hyn fel cyfle i dargedu nid yn unig pobl sy’n agored i niwed ond unrhyw ddeiliad tŷ sydd wedi cael ei effeithio gan y stormydd diweddar," meddai.
"Rydym am i bobl fod yn wyliadwrus ac adrodd unrhyw fasnachwyr twyllodrus i'r heddlu a Safonau Masnach.
"Rydym hefyd am atgoffa trigolion i fod yn amheus bob amser os bydd rhywun yn cyrraedd eu stepen drws, neu os ydynt yn derbyn galwad ffôn annisgwyl, gan hawlio bod angen atgyweiriadau neu gynnal a chadw o unrhyw fath ar eu heiddo.”
Sut mae adnanbod 'masnachwyr twyllodrus'?
Yn ôl Cyngor Ceredigion, byddai'r masnachwyr o'r math hwn yn cynnig gwaith all ddechrau ar unwaith a chynnig prisiau isel, cyn codi eu prisiau ar ôl i'r gwaith ddechrau.
Fe allai'r gwaith hefyd cael ei gwblhau i safon isel allai arwain at angen mwy o waith eto.
Mae masnachwyr twyllodrus hefyd yn defnyddio enwau a chyfeiriadau ffug fel na ellir eu hadnabod yn hawdd, meddai'r cyngor.
Os yw eich eiddo wedi dioddef unrhyw ddifrod, mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach yn annog trigolion i:
- Peidio â chytuno i unrhyw waith ar stepen ddrws. Dywedwch na bob amser i alwadau diwahoddiad sy'n cynnig gwneud gwaith ar eich eiddo.
- Siarad gydag eich cwmni yswiriant yn gyntaf cyn cysylltu ag unrhyw un i wneud gwaith atgyweirio - bydd gan lawer o gwmnïau yswiriant restr o fasnachwyr parchus.
- Defnyddio grefftwyr sydd wedi eu hargymell gan ffrindiau a theulu.
- Mynnu tri dyfynbris gan fasnachwyr o ffynonellau gwahanol ac annibynnol.
- Wrth gasglu dyfynbrisiau, mae'n bwysig bob amser cael y gwybodaeth yn ysgrifenedig a sicrhau eich bod yn cael contract fel eich bod yn gwybod yn union beth rydych yn talu amdano, er mwyn helpu i osgoi costau ychwanegol yr oeddech chi'n meddwl oedd eisoes wedi'u cynnwys yn y pris.
- Cael contract ysgrifenedig
Mae'r cyngor yn galw ar drigolion Ceredigion sydd â phryderon am sgamiau posibl neu sydd eisiau rhywfaint o gyngor cyn contract gysylltu â Gwasanaeth Defnyddwyr Cenedlaethol Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133.
Llun: Meithrinfa Cylch Meithrin Cei Newydd, Ceredigion, a gollodd ei tho i wyntoedd cryfion Storm Darragh.